05/02/2020

Mae Cymdeithas Adeiladu Abertawe wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn ei staff ar gyfer 2020.

Bydd y staff yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian drwy gydol y flwyddyn, a bydd yr holl arian yn mynd i'r elusen.

Ers 2001, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cwblhau dros 34,000 o alwadau y flwyddyn ledled y wlad. Mae pedwar gwasanaeth awyr yr elusen yng Nghaernarfon, Llanelli, y Trallwng a Chaerdydd yn barod i achub bywydau ble bynnag y bo angen.

Gall Ambiwlans Awyr Cymru fod yno i unrhyw un yng Nghymru o fewn 20 munud. Yn ogystal â mynd â chleifion i'r ysbyty mewn hofrennydd, mae hefyd yn dod â'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn uniongyrchol at y claf. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn meddu ar rai o'r offer a'r sgiliau mwyaf arloesol yn y byd. Maent yn gallu rhoi triniaethau brys nad ydynt ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty fel arfer, gan gynnwys trallwyso gwaed, rhoi anaesthetigion, cynnig cyffuriau cryf i ladd poen a chyflawni amrywiaeth o driniaethau meddygol. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn derbyn gofal uwch cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty hyd yn oed.

Ariennir Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru; mae'n dibynnu'n llwyr ar gymorth gan y cyhoedd er mwyn helpu i sicrhau y gall yr hofrenyddion barhau i hedfan. Nid yw'r elusen yn derbyn cyllid uniongyrchol gan y llywodraeth, ac nid yw'n gymwys i dderbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol. Caiff ei hofrenyddion eu cadw yn yr awyr gan roddion elusennol, digwyddiadau codi arian ac aelodaeth ei Loteri Achub Bywydau fewnol.

Mae'r Elusen yn wasanaeth 12 awr ar hyn o bryd, sy'n gweithredu rhwng 8am ac 8pm, ond hoffai ddatblygu i fod yn wasanaeth 24/7 yn 2020. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn.

Dywedodd Alun Williams, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Abertawe: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru eleni. Mae angen i'r elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i weithredu'r gwasanaeth ac rydym yn awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu.

‘‘Mae ein gweithgareddau elusennol yn dod â ni at ein gilydd ac yn ein helpu i roi rhywbeth yn ôl i'r ardaloedd rydym yn gweithredu ynddynt. Mae ein staff bob amser yn rhoi llawer o ymdrech i'n gweithgareddau elusennol ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa weithgareddau fydd yn cael eu cynnal eleni, a faint o arian y byddwn yn llwyddo i'w godi.’’

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: ‘‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â Chymdeithas Adeiladu Abertawe drwy gydol 2020. Gwnaethom lansio ein hymgyrch codi arian yn ddiweddar i hyrwyddo ein nod o ddatblygu i fod yn wasanaeth 24/7 a dyma'r math o gymorth a fydd yn sicrhau y gallwn fod ar gael i bobl Cymru, yn ystod y dydd a'r nos. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth na fydd staff Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn derbyn yr her ac yn cael blwyddyn lwyddiannus iawn o godi arian.’’