Annwyl Ffrindiau

Roeddem am roi gwybod i chi ein bod yn chwilio am leoliad siop newydd ar gyfer ein Helusen yng Nghaerdydd.

Mae'r sector manwerthu wedi profi nifer o heriau ar hyd y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y cynnydd parhaol mewn costau rhent a chyfleustodau. Yn anffodus, rydym wedi wynebu'r un heriau gydag'n siop bresennol (ar Churchil Way) yng Nghaerdydd, a gwaethygodd hyn oherwydd y parhad mewn gweithiau ailddatblygu hirdymor y tu allan i'r safle. Gallai'r ailddatblygiad hwn olygu bydd y siop yn y lle anghywir yn y dyfodol.

Am y rhesymau hyn, mae'n drist iawn gennym gyhoeddi y byddwn yn cau ein siop bresennol yng Nghaerdydd. Y diwrnod olaf o fasnachu fydd dydd Sadwrn 19 Awst 2023.

Diolch o galon i'n cydweithwyr a'n gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio yn ein siop bresennol yng Nghaerdydd am eu cyfraniadau sy'n achub bywydau.

Er hynny, fel y nodwyd, hoffem aros yng Nghaerdydd ac rydym wrthi'n chwilio'n barod am safleoedd amgen, addas a chost-effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Y siop sydd agosaf i Gaerdydd yw'r un yn y Fenni ond cadwch olwg allan am gyhoeddiad cyffrous ynghylch ein presenoldeb manwerthu yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru.

Diolch am eich cefnogaeth barhaol.