Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi mai Ambiwlans Awyr Cymru fydd elusen nesaf y Llywydd yn Sioe Frenhinol Cymru (26 Gorffennaf 2023).

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd yr Undeb, a oedd yn siarad yn nerbynfa'r Llywydd ar nos Fercher y sioe: "Rydym newydd weld gallu nerthol Undeb Amaethwyr Cymru i godi arian a beth y gallwn ei gyflawni gydag elusen ein Llywydd ac rwy'n gwybod y bydd pawb yn cefnogi'r achos nesaf.

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi'i gwreiddio yn gadarn yn ardaloedd gwledig Cymru ac er nad ydym wir eisiau eu gweld, rydym eisiau gwybod eu bod yno ac yn barod i fod yno pan fo angen."

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei hariannu gan bobl Cymru ac maent yn gweithredu rhai o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau.

Mae angen £11.2 miliwn y flwyddyn ar Ambiwlans Awyr Cymru i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ar draws Cymru.

Rydym yn cynnig gofal critigol uwch, a chawn ein disgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’.

Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Mae'r Elusen wedi cwblhau dros 46,000 o alwadau ac mae ar alwad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

"Maent yno i bobl Cymru pryd bynnag a ble bynnag y mae eu hangen arnynt ac rwy'n falch o gyhoeddi ein cefnogaeth yn swyddogol i'r achos haeddiannol hwn," ychwanegodd Ian Rickman.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydyn ni'n teimlo'n falch iawn o'r cyhoeddiad a'r gefnogaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru a'u Llywydd, Ian Rickman. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw ein gwasanaeth i gymunedau gwledig ac amaethyddol Cymru a chaiff hyn ei adlewyrchu ganddynt drwy eu haelioni anhygoel a ddangosir ganddynt at ein helusen.

"Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, ein nod yw i roi'r gofal gorau posibl ar draws y wlad, ond, i gydnabod hefyd y gwahanol ofynion rhwng ein cymunedau gwledig a threfol.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau y gall ein gwaith hollbwysig barhau, nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd cefnogaeth fel yr hyn gan Undeb Amaethwyr Cymru yn ein helpu i gyflawni hyn. Mae ein hymrwymiad i Gymru wledig a'n cysylltiad â hi yn gryf iawn, a bydd hynny'n parhau am byth.

"Hoffwn ddiolch o galon i Undeb Amaethwyr Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw a pharhau i adeiladu a chryfhau ein perthynas gyda'n gilydd."