Cyhoeddwyd: 04 Rhagfyr 2023

Mae cwsmeriaid siop elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn yn dweud eu bod “wrth eu bodd” gyda'i hedrychiad newydd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ailagor drysau ei siop elusen yn Nhywyn yn ddiweddar, yn dilyn gwaith ailfrandio ac ailosod.

Mae'r siop boblogaidd, sydd ar y Stryd Fawr, wedi bod ar agor ers 2005 ond dyma'r tro cyntaf i'r siop gael ei hailosod yn llwyr. Dros gyfnod o dair wythnos, helpodd staff yr Elusen a gwirfoddolwyr y siop i greu gofod newydd a modern ar gyfer ei chwsmeriaid.

Mae'r newidiadau yn cynnwys llawr derw newydd, paneli newydd, gondolâu, man talu a silffoedd newydd. Mae dreser Gymreig bellach yn cael ei defnyddio i arddangos eitemau ar gyfer y cartref.

Mae'r nwyddau a arddangosir yn ffenestr yn rhoi cipolwg i'r rhai sy'n mynd heibio ar yr hyn sydd gan y siop i'w gynnig. Mae'r gwaith ailosod wedi rhoi'r cyfle i'r tîm ehangu ardal y ffenestr, a fydd yn galluogi'r staff i greu arddangosfeydd thematig i arddangos amrywiaeth ehangach o eitemau.

Mae'r gwaith i ddiweddaru ac ailfrandio siopau presennol yr Elusen yn rhan o lasbrint manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru. Arweiniwyd trawsnewidiad y siop yn Nhywyn gan Julie Cornelius, Rheolwr Gweithrediadau Manwerthu.

Dywedodd Abigail Severn, Rheolwr Siop Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn: "Mae'r siop newydd yn olau, yn fwy, yn fodern ac yn groesawgar.Ers i'r drysau agor, rydym wedi cael llawer o ganmoliaeth gan ein cwsmeriaid, sydd wedi canmol cynllun y siop a'r stoc, ac wedi dweud bod y siop yn edrych yn fwy.

"Mae fy ngwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn rhoi o'u hamser i weithio mewn siop ddillad fodern a chrand, yn enwedig ers iddynt gael eu gwisg newydd sbon.

"Mae'r gwaith ailfrandio wedi bod yn bwysig iawn i mi, fy ngwirfoddolwyr a'r Elusen.Roedd y siop yn dechrau edrych yn flinedig, mac er nad oedd ein cwsmeriaid fel pe baent yn poeni gormod am hyn, rydym am i'r siop adlewyrchu ein sefydliad arloesol."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Yn aml caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, fodd bynnag, gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Ychwanegodd Abigail: "Mae pawb wrth eu bodd gyda'r gwaith ailosod. Mae'n bleser gan y gwirfoddolwyr, y staff a minnau weithio mewn lle mor hyfryd, ac rydym yn falch iawn o wneud hynny. Hoffem ddiolch i bawb, yn enwedig i Julie, am eu gwaith caled."

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.