Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael rhodd o £1000 diolch i ddosbarthwr tanwydd ac ireidiau mwyaf y DU, Certas Energy, a’i gwsmeriaid ffyddlon yng Ngorllewin Cymru.

Mae gan Certas Energy drwydded ar gyfer brand 'Gulf' yn y DU. Diolch i gwsmeriaid gorsaf betrol 'Gulf Square and Compass' yn Hwlffordd, roedd y gwasanaeth achub bywyd yn un o ddeg elusen yn y DU i gael rhodd yn ddiweddar.

Gall defnyddwyr yr orsaf betrol sy'n ymuno â menter Gwobrwyo Tanwydd Wmff Gulf gasglu pwyntiau bob tro y maent yn gwario arian ar gynhyrchion neu wasanaethau. Gallant gael eu pwyntiau naill ai drwy roi cynnig ar raffl neu drwy eu rhoi i'w garej leol. Mae unrhyw bwyntiau a roddir i'r garej yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill £1000 ar gyfer ei Elusen enwebedig.

Dywedodd Jessica Lilley, Swyddog Gweithredol Marchnata Certas Energy: “Rydym mor falch bod ein platfform teyrngarwch arobryn, Wmff, yn parhau i gefnogi elusennau ledled y DU pan mae gwir angen amdano ar ôl blwyddyn mor anodd.  Rydym wedi dosbarthu dros £30,000 hyd yma, ac yn falch iawn o'r holl elusennau y gallwn eu cefnogi, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd ei safle lleol yng ngorsaf betrol 'Square and Compass' yn awyddus i gefnogi elusen gadarnhaol iawn sy'n achub bywydau, a bydd yn parhau i wneud hynny drwy'r cynllun, a gobeithio ennill hyd yn oed mwy o arian i'r Elusen. Mae ein cwsmeriaid a'r gymuned ehangach wedi gweld drostyn eu hunain bod Wmff yn cynnig llawer mwy na chynlluniau teyrngarwch blaengwrt eraill.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin : “Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd hon. Roedd ond yn bosibl diolch i gwsmeriaid anhygoel a hael gorsaf betrol 'Square and Compass', a roddodd eu pwyntiau gwobrwyo, a thîm yr orsaf a ddewisodd Ambiwlans Awyr Cymru fel ei elusen enwebedig.

“Rydym yn mynychu argyfyngau sy'n peryglu bywydau ac yn achosi anafiadau gwael yn rheolaidd yn Sir Benfro. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol a gwyddom pa mor bwysig yw ein gwasanaeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.