Cwpl cystal â'r aur yn rhoi rhodd garedig i elusen ambiwlans awyr Mae cwpl caredig wedi dathlu eu pen-blwydd priodas aur drwy godi mwy na £150 i Ambiwlans Awyr Cymru. Dathlodd John a Di Winterton o Lightwater, Surrey, y garreg filltir arbennig hon drwy gael te prynhawn gyda'u teulu a'u ffrindiau yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod. Nid oedd y cwpl, sy'n nain a thaid i bedwar ŵyr, eisiau cael anrhegion. Yn hytrach, gwnaethant annog eu teulu a'u ffrindiau i roi arian i'r elusen sy'n achub bywydau. Roedd eu mab iau, Dan, eu merch yng nghyfraith Kerry a'u pedwar plentyn Alisha, Jesse, Adam a Harley hefyd wedi teithio o Surrey i ymuno yn y dathlu. Priododd John a Di yn eglwys Sant Ioan y Difinydd yng Nghwm-bach Llechryd yn 1971, sef yr eglwys lle priododd mam a dad Di yn 1942. Aeth y cwpl ymlaen y gael dau fab a'u magu yn Surrey, lle buont yn byw. Er na fu Di byth yn byw yng Nghymru, mae ganddi gysylltiadau agos â'r ardal, ac mae'n cael y Mid Wales Journal drwy'r post yn ei chartref yn Surrey. Dywedodd Di: “Rwy'n teimlo'n aml fy mod yn enedigol o Gymru! Bu fy nain a thaid yn byw yng Nghwm-bach ar hyd eu hoes. Wedyn symudodd mam i fyw yn eu tŷ nhw ar ôl i nain farw. Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o'r gwyliau haf yno ers cyn cof, ac wedi mynd â'm meibion fy hun yno hefyd i dreulio'r gwyliau gyda'u nain nhw! Mae nifer o ffrindiau gennyf yn yr ardal o hyd hefyd. Felly mae gennyf gysylltiadau emosiynol cryf â Chymru.” Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen sy'n achub bywydau ei nod o gynnig gwasanaethau 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. Dywedodd Di: “Yn ein hoedran ni, nid oes angen anrhegion arnom. Rydyn ni'n ffodus iawn ein bod yn cael digon o arian pensiwn i allu fforddio'r hyn sydd ei angen arnom.” Cafodd y cwpwl gacen hyfryd a wnaed gan Lesley Thompson o Gilmeri. Ar ôl y dathliadau pen-blwydd priodas, a oedd yn cynnwys 14 o ffrindiau a nifer o aelodau o'r teulu, aethant i ymweld â mannau lleol sy'n gysylltiedig â'r teulu, sydd wedi byw yno ers blynyddoedd lawer. Dywedodd John: “Am weddill y penwythnos aethant ar drywydd hanes y teulu yn ardal Llandrindod i leoedd sy'n gysylltiedig â'u cyndeidiau. Aeth y wyrion yn dditectifs drwy ddilyn cyfres o gliwiau a ddyfeisiwyd gan eu nain, Di, a chawson nhw lawer o hwyl.” Dewisodd Di Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer eu rhodd yn lle anrhegion ar ôl darllen am waith yr elusen. Dywedodd: “Gall ymyrryd yn gyflym achub bywydau a gwella'r siawns y bydd y claf yn adfer drwy roi triniaeth feddygol ar frys. Gall fod yn anodd cyflawni hyn mewn ardaloedd gwledig o ystyried pa mor bell y mae angen teithio i fynd â rhywun sy'n sâl iawn i'r ysbyty. Mae hedfan yn gwneud llawer o synnwyr. Roedden ni'n awyddus i gefnogi elusen leol yng Nghanolbarth Cymru.” Dywedodd Helen Pruett, un o weithwyr codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Hoffem ddiolch i'r ddau ohonyn nhw am eu caredigrwydd yn codi arian sydd ei angen yn fawr ar Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n amlwg bod gan y teulu gysylltiadau agos â Chymru, ac mae'n galonogol iawn clywed eu bod wedi codi dros £150 a fydd yn helpu i achub bywydau ledled y wlad. Maen nhw cystal â'r aur heb os. Pen-blwydd priodas aur hapus i chi'ch dau! Diolch o galon i chi ac i bawb a roddodd arian i'r elusen yn lle rhoi anrhegion i John a Di. Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com. Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. Manage Cookie Preferences