27 Ebrill 2023

Priododd Jayne a Dylan Andrew a chodi arian hanfodol ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau.

Ar ddiwrnod mwyaf arbennig eu bywydau, penderfynodd y cwpl hael, Jayne a Dylan Andrew i godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Dyweddïodd y cwpl o Ganolbarth Cymru nôl yn 2018.

Ar ôl gohirio eu priodas dair gwaith oherwydd cyfyngiadau COVID, priododd Jayne a Dylan o'r diwedd o flaen eu hanwyliaid ym mis Awst 2022.

Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Llandysul, gyda derbynwest ar fferm teulu Jayne yn Aber-miwl. 

Yn hytrach na rhestr rhoddion priodas, roedd y cwpl yn anhunanol wrth iddynt ddewis codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a gofyn i'w teulu a'u ffrindiau wneud rhodd i'r elusen sy'n achub bywydau. 

Yn ffodus nid yw'r cwpl priod erioed wedi bod angen y gwasanaeth ond maent yn gwybod pa mor hanfodol ydyw i bobl Cymru.

Dywedodd Jayne: “Fe wnaethom benderfynu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gan ein bod yn byw mewn ardal wledig gyda theulu ifanc. Mae'r ddau ohonom wedi cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol yn y gorffennol megis rygbi, chwaraeon moduro, marchogaeth a thriathlonau. Diolch byth, nid yw'r naill na'r llall wedi gorfod defnyddio'r adnodd, ond wrth i'n teulu dyfu roeddem eisiau cefnogi'r elusen i sicrhau ei fod ar gael yn y dyfodol.”

Er mwyn treulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau, gwnaeth y cwpl barhau â'r dathlu ar hyd y penwythnos. Aeth Jayne yn ei blaen i ddweud: “Cynhaliwyd cinio ac ocsiwn addewidion i ymestyn y penwythnos. Cefnogodd teulu a ffrindiau'n hael i godi arian ar gyfer yr elusen arbennig hon.”

Roedd y gefnogaeth a gafodd y cwpl yn fwy na'r disgwyl wrth iddynt godi swm syfrdanol o £5,520.

Dywedodd Jane Griffiths, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Jayne a Dylan ar eu priodas.

“Fel Elusen, rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am ddewis ein cefnogi ni ar ddiwrnod mwyaf arbennig eu bywydau. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd a diolch yn arbennig i Jayne a Dylan am weithred mor anhunanol.

 

“Mae pob rhodd yn helpu i gadw ein gwasanaeth i redeg, gan ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau.”

 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.