Mae cwmni o Fangor wedi cyflwyno rhodd o £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn cyfnod llwyddiannus yn codi arian.

Dewisodd Watkin Property Ventures (WPV) yr Elusen sy'n achub bywydau fel ei Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2022/23.

Drwy gyfres o ddigwyddiadau a heriau, cododd y cwmni gyfanswm o £1,000 ar gyfer yr achos, yna rhoddodd Cronfa Gymunedol y cwmni daliad cyfatebol iddynt, gan ddod â'r cyfanswm i £2,000.

I godi'r arian, cymerodd y staff ran mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy'r flwyddyn gan gynnwys betio ar rasys, diwrnod siwmper Nadolig, yn ogystal â gweithgareddau Nadoligaidd eraill. Cymerodd pob aelod o'r staff ran mewn her camau am saith wythnos, a chwblhawyd cyfanswm o 10 miliwn o gamau dros y cyfnod.

Roedd staff Watkin Property Ventures yn falch o gael cyflwyno'r arian i'r Elusen mewn achlysur i gyflwyno'r siec ym Maes Awyr Caernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran Pwyllgor Elusen Watkin Property Ventures: "Mae cyfanswm y cyfraniad hwn o £2,000 yn tynnu sylw at ymrwymiad WPV at wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned ac i'r sefydliadau sy'n chwarae rôl gritigol yn y gwasanaethau brys lleol.

"Cymerodd y cyflogeion ran yn y fenter i godi arian yn llawn brwdfrydedd, a chymerwyd rhan mewn digwyddiadau codi arian a gweithgareddau meithrin tîm drwy'r flwyddyn er mwyn cefnogi'r elusen. Bydd y rhodd o £2,000 yn cyfrannu'n uniongyrchol at nod Ambiwlans Awyr Cymru o ddarparu gwasanaethau a gofal meddygol sy'n achub bywydau mewn sefyllfaoedd argyfwng. Mae Watkin Property Ventures yn ddiolchgar iawn i'w holl staff, partneriaid a chefnogwyr a gyfrannodd at lwyddiant ein hymgyrch codi arian."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch yn fawr iawn i bawb yn Watkin Property Ventures, a weithiodd mor galed drwy'r flwyddyn i godi arian ar gyfer ein hachos. Rydym yn falch iawn o glywed bod Cronfa Gymunedol y cwmni wedi talu arian cyfatebol i'r £1,000 a godwyd ganddynt. Mae'n hyfryd bod Watkin Property Ventures wedi dewis ein Helusen fel ei Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2022/23.

"Mae angen i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, bydd y rhodd hon yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr.”