Nododd cwmni logisteg, storio a dosbarthu o Sir Gaerfyrddin hanner canrif mewn busnes drwy godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.   

Dathlodd Owens Group a leolir yn Llanelli ei benblwydd yn 50 oed eleni pan ddechreuodd fasnachu gydag un fan yn unig, yn cludo dodrefn, geginau, a rhannau piano yn ôl yn 1972.  

Bellach mae gan y cwmni fflyd o fwy na 1,500 o asedau, gan gynnwys faniau, tryciau a threileri, a chaiff ei ystyried yn un o brif gwmnïau teuluol logisteg, storio a dosbarthu rhannu y DU. 

I nodi'r garreg filltir anhygoel hon, cynhaliodd Owens Group, a sefydlwyd gan Huw Owen MBE, ddiwrnod hwyl i'r teulu ar gyfer ei staff fis Medi yn eu pencadlys newydd yn Y Bynie.  Prynodd y cwmni hen adeilad Schaeffler / INA yn 2020.  

Fel rhan o'r diwrnod hwyl i'r teulu, cynhaliwyd raffl er budd Ambiwlans Awyr Cymru a gododd £2,800. Yna rhoddodd Owens Group daliad cyfatebol gan ddod â'r cyfanswm i swm anhygoel o £5,600. 

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cymeriadau archarwyr, cestyll bownsio, golff bach, cerddoriaeth fyw ac ymddangosodd enwogion lleol.  

Dywedodd Ian Owen, Cyfarwyddwr Rheoli Owens Group, fod y cwmni eisiau dathlu ei benblwydd drwy roi i elusen haeddiannol.  

Dywedodd: “Fel cwmni, gwnaethom ddathlu ein diwrnod hwyl i'r teulu i nodi hanner canrif ers sefydlu'r cwmni gyda'n staff ac roeddem eisiau defnyddio'r garreg filltir hon fel cyfle i gefnogi achos da.  

“Lleolir pencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli, lle gwnaethom leoli ein pencadlys gwreiddiol ni hefyd am bron i 50 mlynedd. Cawsom gefnogaeth anhygoel ar gyfer y digwyddiad codi arian gan ein staff i gyd ar y diwrnod ac, fel cwmni, roeddem eisiau rhoi arian cyfatebol.  

“Bydd hofrenyddion yn hedfan uwch ben ein pencadlys yn aml yn y Bynie ac ein depo yn Nafen. Rydym wrth ein bodd o fod wedi helpu i godi swm anhygoel o arian i'r Elusen drwy ein digwyddiad hwyl i'r teulu ac rydym eisoes yn chwilio am ffyrdd eraill o helpu i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol.” 

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr yng Nghymru. Nid yw'n cael arian gan y Loteri Genedlaethol na chyllid uniongyrchol gan y llywodraeth. 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol gydag Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym mor falch ac yn hynod ddiolchgar o dderbyn y swm anhygoel o £5,600 gan Owens Group yn dilyn eu diwrnod hwyl i'r teulu. Roedd yn amlwg yn ddiwrnod gwych a llongyfarchiadau enfawr i chi ar eich penblwydd yn 50.   

Bydd y rhodd hon yn helpu ein meddygon i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol ac yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.”