Daeth cwmni lloriau a charpedi o Aberystwyth i helpu Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r Elusen gysylltu yn gofyn am rywfaint o gymorth.

Aeth Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol yr Elusen at Graham Flooring a Spooner Carpets and Flooring i welda allen nhw helpu i gyflenwi lloriau i'r orsaf yn y Trallwng.

Bu Wayne yn hael iawn drwy gyflenwi'r holl loriau ar gyfer y gwaith ailosod yn yr uned, fel rheol byddai'r gwaith yn costio £1,000 ond roedd yr Elusen yn falch dros ben mai dim ond £250 gafodd ei godi arni.

Mae'r Cyfarwyddwr, Wayne Spooner, yn gefnogwr brwd iawn o Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo dorri ei wddf yn 2012.

Ychwanegodd Wayne: “Roeddwn am ddangos fy ngwerthfawrogiad i'r gwaith y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud. Torrais fy ngwddf mewn damwain yn 2012 ac er imi fynd i Ysbyty Bronglais, roedd yr ambiwlans awyr wrth law i'm cludo i dde Cymru pe bai angen. Yn ffodus i mi, nid oedd ei angen, daeth Dougie at ein cwmnïau, Graham Flooring a Spooner Carpets and Flooring i weld a allem helpu ac roeddem yn fwy na pharod i wneud.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig i ganolbarth Cymru a'r gororau.”

Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni, sydd â lleoliad yn y Trallwng hefyd, wneud gwaith a rhoi carpedi a finyl i Ambiwlans Awyr Cymru, ond maen nhw wedi gwneud rhoddion ariannol yn y gorffennol.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Weithiau gall rhoi eitemau arbed cannoedd o bunnoedd i ni. Atebodd Wayne fy nghais am help i ailosod yr uned yn y Trallwng. Rhoddodd ei amser a'i weithwyr. Cyflenwodd yr holl garpedi a'r lloriau ar gyfer yr ystafell wlyb yn rhad ac am ddim – am rodd gwych i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae gan Wayne brofiad uniongyrchol o gael Ambiwlans Awyr Cymru wrth law – nid oedd ei angen arno ond roedd yn hynod ddiolchgar amdano. Diolch Wayne, rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.