Mae staff o P K Safety wedi codi £2,066 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddynt ddringo Pen y Fan ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau.

Gwnaeth naw aelod o staff a Bella y ci ymgymryd â'r her o ddringo'r copa uchaf yn ne Cymru, sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Penderfynodd y cwmni diogelwch, sydd wedi'i leoli yn Ystrad Mynach, Caerffili, godi arian ar gyfer yr Elusen ar ôl i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei alw ar gyfer plentyn sy'n agos at gyfarwyddwyr y cwmni.

Dywedodd Gweithredwr Marchnata P K Safety, Ryan Jones: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi gofal hanfodol i'r rai sydd ei angen fwyaf. Rhoddodd yr elusen ofal a chymorth i blentyn ffrindiau i'r teulu pan gafodd losgiadau a allai newid ei fywyd mewn damwain. Diolch i'r gofal a roddwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru, nid yw'r bachgen ifanc wedi dioddef unrhyw effeithiau hirdymor.”

Y staff a wisgodd eu hesgidiau cerdded oedd Ryan Jones, Bevan Wells, Aimee Brownette, Leanne Stacey, Graham Hubbard, Jo Hubbard, Andrew Smith, Santhos Ioannides a Keith Griffiths.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Mae'r gwasanaeth hefyd yn trosglwyddo cleifion rhwng ysbytai pan fydd angen triniaeth frys ar unwaith mewn cyfleuster gofal iechyd arbenigol. Caiff y gwasanaeth hwn ei gefnogi gan dîm o Ymarferwyr Trosglwyddo. 

Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac mae'r staff wrth eu boddau eu bod wedi curo eu targed gwreiddiol o £250.

Ychwanegodd Ryan: “Pan glywodd pawb ein bod ni'n codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gwnaeth y tîm cyfan bopeth y gallent i godi cymaint â phosibl. Roedd ffrindiau a theuluoedd yr un mor awyddus i roi arian a chodi cymaint â phosibl, ac erbyn diwedd yr ymgyrch roeddem wedi codi swm anhygoel o £2066. Mae hynny 826 y cant yn fwy nag yr oeddem wedi bwriadu ei godi.

“Fel cwmni diogelwch rydym yn frwdfrydig dros achub bywydau, felly roedd elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn agos iawn at ein calonnau am ei bod yn rhannu'r un egwyddorion, drwy achub miloedd o fywydau bob blwyddyn. Gan fod elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei hariannu gan bobl Cymru, roeddem yn teimlo dyletswydd i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi achos mor dda.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein boddau bod P K Safetywedi dewis codi arian ar gyfer ein Helusen, yn enwedig yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 21 oed. Dylai'r staff fod yn falch iawn o fod wedi codi £2,066 ar gyfer ein helusen sy'n agos at galonnau'r cyfarwyddwyr.

“Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth a diolch i bawb sydd wedi rhoi arian i'w hymgyrch codi arian. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub mwy o fywydau ledled Cymru.” 

I gael rhagor o wybodaeth am P K Safety ewch i www.pksafetyuk.com

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.