Mae cwmni danfon o’r Drenewydd wedi cynnig ei gefnogaeth i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy hyrwyddo brand yr elusen ar lenni ei lorïau.

Gosododd Station Couriers y llenni sydd wedi cael eu dylunio â brand Ambiwlans Awyr Cymru ar ddau drelar unigol ac un lori anhyblyg. Maent hefyd yn bwriadu cael set arall o lenni ar gyfer trelar deulawr yn y misoedd nesaf.

Mae’r cwmni yn hynod falch i hyrwyddo Ambiwlans Awyr Cymru ac mae’r gyrwyr wrth eu boddau o gael y treileri ar eu lorïau’.

Cafodd y llenni newydd amlwg eu dylunio gan Now Group, a’u hargraffu gan WJ Leech a gyfrannodd £500 tuag at y gost.

Wrth esbonio pam y penderfynodd y cwmni gefnogi’r elusen 24/7, dywedodd Sian Jenkins, Cyfarwyddwr Station Couriers: “Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sy’n agos iawn at ein calonnau. Credwn yn gryf fod Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud gwaith anhygoel, a gwyddom am deulu a ffrindiau sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth. Yn sicr, byddem ni ar goll heb wasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru gan ein bod ni’n byw mewn ardal mor wledig.”

Yn ogystal ag ail-ddylunio’r llenni, mae Station Couriers wedi rhoi £500 i’r elusen. Mae’r cwmni yn aelod allweddol o’r Pallet Network, ac yn cymryd rhan yn eu loteri bob mis, sy’n cefnogi elusennau lleol. Enillodd Station Couriers a gwnaethant roi'r wobr o £500 i’r elusen.

Maent hefyd wedi trefnu diwrnod hwyl i'r teulu ym mis Ebrill er budd yr elusen sy’n achub bywydau lle bydd Station Couriers ynghyd ag aelodau o Glwb Rygbi’r Drenewydd yn ceisio torri record y byd drwy dynnu lori â llaw ar hyd hedfa'r Trallwng. 

Darparwyd yr yswiriant ar gyfer hyn i Station Couriers gan Towergate Insurance Brokers yn Stoke.

Cafodd staff o Station Couriers gyfle yn ddiweddar i ymweld â lleoliad yr elusen yn y Trallwng i gyfarfod a thîm Ambiwlans Awyr Cymru. Gwnaethant gyflwyno siec o £500 i Dougie Bancroft, Swyddog Codi Arian Cymunedol yr elusen.

Dywedodd: “Mae llenni’r lorïau’n edrych yn wych. Maent yn hoelio eich sylw a byddant yn codi ymwybyddiaeth o'r Elusen i bawb sydd ar y ffyrdd. Diolch yn fawr iawn i bawb yn Station Couriers am hyrwyddo ein Helusen yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd yn 20.

“Mae’r gefnogaeth mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei dderbyn gan y cwmni yn anhygoel. Mae’r digwyddiad codi arian flwyddyn nesaf yn swnio'n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan. Diolch yn fawr hefyd i WJ Leech a Towergate Insurance Brokers am gefnogi ein helusen sy’n achub bywydau. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae Station Couriers yn cynnig ystod eang o wasanaethau danfon parseli a phaledi i unig fasnachwyr, cwmnïau cyfyngedig a’r cyhoedd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.stationcouriers.co.uk

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.