Mae cwmni cyfieithu yng Nghaerdydd wedi arbed dros £8,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnig cyfieithiadau i'r Gymraeg yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Prysg wedi mabwysiadu Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'r elusennau y mae'n eu cefnogi ac mae wedi cyfieithu nifer mawr o ddogfennau. 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae ein Helusen wedi'i gwreiddio yn y cymunedau amrywiol a dwyieithog a wasanaethir gennym ledled Cymru a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein hymroddiad i'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad drwy ein Polisi Iaith Gymraeg i ddarparu gwasanaethau a chynnwys dwyieithog lle y bo modd.

“Mae'r gefnogaeth a gawn gan Prysg yn ein galluogi i ddarparu cynnwys dwyieithog mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn ariannol. Felly, rydym yn hynod ddiolchgar i Prysg am gefnogi ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ac am y gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar a gawn.”

Prysg, sydd hefyd yn cyfieithu i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Heddlu De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i enwi rhai, yw un o'r prif gwmnïau cyfieithu Cymraeg/Saesneg yng Nghymru, ac mae'n cynnig gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ledled y DU.

Dywedodd Janet Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Prysg: “Mae'n bleser gennym gefnogi'r elusen unigryw hon yng Nghymru yn ogystal â darparu gwasanaeth dwyieithog.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.          

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

I gael rhagor o wybodaeth am Prysg, ewch i www.prysg.com