Mae cwmni yn Wrecsam wedi rhoi cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol i staff a gwirfoddolwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae PPE Hwb Wrecsam, sy'n gwmni buddiannau cymunedol, wedi gweithio'n ddi-baid yn ystod y pandemig i wneud yn siŵr bod gan unigolion a sefydliadau ledled y wlad gyfarpar diogelu personol. Hyd yma, mae'r cwmni wedi dosbarthu mwy na 45,000 o feisorau wyneb i'r gymuned leol.

Mae'r gwirfoddolwyr yn falch o gefnogi'r gymuned drwy wneud eu feisorau wyneb eu hunain ac mae PPE Hwb Wrecsam wedi gwneud 425 o amddiffynwyr wyneb ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau a'u rhoi iddi am ddim.

Dywedodd Alison Thompson, o PPE Hwb Wrecsam: “Gwnaethom gysylltu ag Ambiwlans Awyr Cymru i weld a fyddai ein hamddiffynwyr wyneb yn ddefnyddiol. Yna, roeddem yn awyddus i helpu'r gwirfoddolwyr i gyflawni eu rôl werthfawr mewn unrhyw ffordd bosibl. Rydym ni hyd yn oed yn fwy balch o'r ffaith ein bod wedi gallu helpu gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru ledled Cymru gyfan, ymhell y tu hwnt i'n hardal leol, gyda thros 400 o amddiffynwyr wyneb”.

Caiff y feisorau a gynhyrchir gan y gwirfoddolwyr eu dosbarthu ledled y DU yn rhad ac am ddim, a chaiff y rheini sy'n eu derbyn eu gwahodd i roi arian os gallant.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wedi gwerthfawrogi'r rhodd hon yn fawr. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser rhydd neu wedi darparu cyfarpar i wneud y PPE hanfodol hwn. Yn ogystal â'n helusen, rwy'n siŵr bod llawer o sefydliadau ac unigolion eraill wedi gwerthfawrogi'r PPE yn ystod y pandemig.”

Yn ogystal â gwneud PPE ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, mae llawer o sefydliadau ac unigolion eraill, megis staff y cyngor, geidiaid, staff y GIG a gweithwyr ysgol wedi cael budd o'r gwasanaeth.

Ychwanegodd Alison: “Mae haelioni'r cyhoedd wedi ein syfrdanu, y rhai sydd wedi gwirfoddoli ar y prosiect a'r rhai rydym wedi rhoi iddynt, a gwerthfawrogiad o’n hymdrechion gan y rhai rydym wedi’u helpu.

“Rydym yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi helpu'r gymuned fyddar i gadw mewn cysylltiad, wedi helpu'r rhai sydd wedi'u heithrio'n feddygol rhag gwisgo masgiau wyneb i aros yn fwy diogel, wedi helpu sefydliadau gwirfoddol i agor unwaith eto a'u galluogi i wneud eu gwaith pwysig eu hunain i gefnogi'r gymuned, wedi helpu busnesau bach i ailagor i'r 'normal newydd', ac wedi cefnogi mwy o staff mewn ysgolion, meithrinfeydd a chartrefi gofal nag y gallem fod wedi'i ddychmygu erioed!

“Drwy gydol cyfnod byr ein prosiect, mae'r gwirfoddolwyr yn PPE Hwb Wrecsam bob amser wedi ceisio helpu cynifer o bobl â phosibl, yn y ffordd orau posibl.”

Byddai PPE Hwb Wrecsam yn annog pawb a fyddai’n cael budd o’i gymorth i gysylltu â'r cwmni ar unwaith drwy ei grŵp Facebook – PPE HwbWrecsamneu ei wefan, ppehwbwrecsam.org.uk.

Mae gan PPE Hwb Wrecsam dudalen Go Fund Me. Os hoffech gyfrannu i gynnal y prosiect hwn, gallwch wneud hynny drwy fynd i

https://www.gofundme.com/f/ppehwbwrecsam