Mae cwmni CMP Plant Hire Ltd (sy'n rhan o Fox Group) ar Ynys Môn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o waith achub bywydau 24/7 Ambiwlans Awyr Cymru drwy arddangos brand yr Elusen ar un o'i lorïau tipio.

Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni weithio gydag elusen. Mae'r cwmni wedi creu deunydd brandio coch a gwyn amlwg i'w arddangos ar y lori fawr, wedi'i ddylunio gan Jonathan Roberts o ‘Racecraft Signs’ yng Nghonwy, Gogledd Cymru.

Yn ogystal ag ailfrandio un o'i lorïau tipio, mae'r cwmni adeiladu hefyd yn rhoi rhodd fisol i'r Elusen.

Wrth drafod pwysigrwydd cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Depo, Geno Williams: “Rydym wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ein helusen noddedig am ein bod yn deall pa mor hanfodol yw ei gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru. Mae'r ffaith bod yr Elusen wedi dod yn wasanaeth 24 awr wedi ategu hynny hefyd.

“Mae canran fawr o bobl yn byw mewn ardaloedd gwledig ac ynysig, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i gerbydau tir gyrraedd y rhai sydd mewn angen, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

“Rydym hefyd yn deall ac yn gwerthfawrogi bod pob eiliad yn cyfrif wrth achub bywydau a chludo cleifion i'r ysbyty. Os yw'r hofrennydd yn cyflymu'r broses hon, dim ond peth da y gall hynny fod. Gan ein bod yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ac yn rhedeg  chwareli yn Ynys Môn, mae'n gysur gwybod bod Ambiwlans Awyr Cymru yno os bydd ei angen arnom byth."

Mae'r cwmni hefyd yn gobeithio cynnal  digwyddiadau codi arian ar ôl i gyfyngiadau'r llywodraeth gael eu llacio.

Daeth CMP Plant Hire Ltd yn rhan o Fox Group yn 2020, ac mae wedi cael adborth da iawn gan gwsmeriaid a thrigolion lleol ynglŷn ag arddangos brand yr elusen ar un o'i lorïau tipio.

Ychwanegodd Geno: “Mae llawer o bobl wedi dweud ei bod yn braf gweld cwmni lleol yn cefnogi elusen mor hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Mae llawer o'n ffrindiau, cydweithwyr a chwsmeriaid wedi dweud bod hwn yn wasanaeth y gallai bob un ohonom gael budd ohono os byddwn yn cael damwain neu'n mynd yn sâl.”

Mae'r lori dipio dan sylw wedi cael llawer o sylw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cwmni hefyd, ac mae hyn wedi gwneud CMP Plant Hire Ltd yn ‘falch iawn’.

Nod y cwmni yw parhau i gefnogi'r elusen hofrenyddion mewn cynifer o ffyrdd â phosibl a chodi ymwybyddiaeth o'i gwaith ar Ynys Môn ac yng Ngogledd Cymru yn ehangach am nifer o flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Linda Ellender, un o Weithwyr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r gefnogaeth rydym yn ei chael gan CMP Plant Hire yn anhygoel. Yn ogystal ag arddangos brand yr Elusen ar un o'i lorïau, mae'r cwmni hefyd yn rhoi rhodd fisol ac yn gobeithio cynnal digwyddiadau codi arian i ni yn y dyfodol. Mae'r lori yn edrych yn wych. Allwch chi ddim ei cholli a bydd yn codi ymwybyddiaeth o'r Elusen ar y ffyrdd. Diolch yn fawr iawn i bawb yn y cwmni.”