18/08/2020

Mae Siop Fferm Hooton's Homegrown wedi creu labrinth a fydd yn helpu i godi arian ar gyfer elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau.

Mae'r labrinth yn Ynys Môn, sydd wedi'i greu o fagiau tyfu mefus a ailgylchwyd, yn ffordd llawn hwyl i bobl o bob oedran fwynhau bod allan yn yr awyr agored, gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth.

Yn wahanol i ddrysfa, ni allwch fynd ar goll yn y labrinth hwn! Dilynwch y llwybr am 900 medr nes i chi gyrraedd y canol.

Wrth drafod y rheswm dros ddewis yr Elusen, dywedodd James Hooton: “Gwnaethom benderfynu ceisio codi rhywfaint o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru gan ein bod yn ymwybodol o bwysigrwydd y gwasanaeth i ffermwyr yn arbennig.

“Rwyf wedi creu labrinth ar ein safle ‘Casglu eich Mefus eich Hun’ fel gweithgaredd ychwanegol i'n cwsmeriaid. Mae pobl o bob oedran yn mwynhau cerdded yn ein labrinth. Mae'n ffordd wych o ymlacio a chael rhywfaint o ymarfer corff wrth gwrs.”

Mae Hootons wedi gosod targed o godi £1,000 a fydd yn cael ei rannu rhyngddyn nhw ac Ambiwlans Awyr Cymru – er mwyn iddynt allu cynnal y labrinth.

Os bydd pobl yn mwynhau'r labrinth, sydd â golygfeydd bendigedig o Eryri, mae Hooton's Homegrown yn gofyn i oedolion dalu £2 a £1 i blant yng nghiosg talu ‘Casglu eich Mefus eich Hun’.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i Hooton's Homegrown sydd wedi penderfynu codi arian i ni yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r labrinth, yn ogystal â'r golygfeydd, drwy godi arian sy'n hollbwysig i'n helusen a'r gwaith o gynnal a chadw'r labrinth.”

Mae'r labrinth, sy'n wych ar gyfer myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar, yn seiliedig ar Labrinth Chartres yn Ffrainc.

Hoffai Hooton's Homegrown atgoffa ymwelwyr i gadw pellter o ddwy fetr a pheidio â symud unrhyw un o'r bagiau tyfu.

Mae Hooton's yn tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain ac yn magu eu da byw eu hunain. Caiff popeth ei baratoi'n ofalus ar y safle ac yna caiff y cynnyrch ffres ei werthu yn ei siopau fferm a'i ddefnyddio ar gyfer y prydau blasus yn y caffi.

Am ragor o wybodaeth am Hooton's Homegrown ewch i www.hootonshomegrown.co.uk.