Mae côr o'r gogledd wedi bod yn codi arian drwy gydol y flwyddyn i ddwy elusen bwysig – Ambiwlans Awyr Cymru a Gafael Llaw.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Encôr, sydd wedi'i leoli ym Mangor, sieciau i'r ddwy elusen ar ôl codi £1,400 yr un iddynt.

Croesawodd Encôr gynrychiolwyr o Ambiwlans Awyr Cymru a Gafael Llaw i'w ymarfer er mwyn cyflwyno rhodd o'i weithgareddau yn ystod y flwyddyn.

Derbyniodd y swyddog codi arian cymunedol Alwyn Jones y rhodd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru, a daeth Dave Evans a Carina Roberts i gynrychioli Gafael Llaw.

Mae arweinydd y côr, Kiefer Jones, yn trefnu amrywiaeth o ganeuon Cymraeg a Saesneg sy'n codi calon, gan ddilyn yr egwyddor bod cyd-ganu o fudd i'r enaid ac i lesiant unigolion.

Ymhlith rhesymau eraill, dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen y flwyddyn am fod yr aelodau yn adnabod pobl y bu angen iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth. Yn ogystal â'r ffaith bod yr elusen achub bywydau yn rhan mor bwysig o'n cymuned.

Eleni, perfformiodd Encôr ar Bier Garth ym Mangor ddwywaith a gwnaeth Ffrindiau Pier Garth Bangor rodd i'r elusennau. Cynhaliwyd gweithdy canu yn Neuadd Penrhyn a chynhaliwyd  Cyngerdd Nadolig gydag artistiaid lleol yn Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Iago. Mae aelodau'r côr yn ddiolchgar i'r Tad Adrian Morrin a Rachel Harris am eu croesawu i'r eglwys ac am eu cymorth wrth gynnal y Cyngerdd Nadolig.

Dywedodd Ruth Wyn Williams, un o aelodau Encôr: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd 2022 yn llawn cyfleoedd i berfformio a chymdeithasu fel côr ac i barhau i gasglu arian i elusennau lleol. Yn ddiweddar, cafodd Encôr grant gan Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol 2021-2022 (Mantell Gwynedd/Cyngor Gwynedd) a fydd yn helpu'r côr i dyfu ac i fuddsoddi mewn adnoddau fel cyfarpar sain ac i gynnal rhagor o weithgareddau i fwynhau cyd-ganu er budd ein llesiant corfforol a'n llesiant meddwl.

“Kiefer Jones yw arweinydd a chyfarwyddwr cerddorol y côr ac mae'n anelu at gyrraedd y safon gerddorol orau posibl drwy gyflwyno amrywiaeth o ganeuon llawen (Cymraeg a Saesneg) sy'n codi'r galon ac yn gwella'r hwyl.

"Fodd bynnag, mae angen diolch i bob un o aelodau'r côr am eu gwydnwch, eu dyfalbarhad a'u gofal tuag at ei gilydd wrth ddilyn pob mesur rhesymol i'n galluogi i gyd-ganu."

Dywedodd Alwyn Jones: “Diolch o galon i Encôr am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'i Elusennau'r Flwyddyn yn ôl ym mis Rhagfyr 2020, ac am fwrw ati wedyn i godi swm mor anhygoel o arian i ni a Gafael Llaw, sef elusen leol yng Ngwynedd ac Ynys Môn sy'n codi arian i blant â chanser.

“Mae 50 o aelodau yn y côr erbyn hyn ac maent wedi cael croeso mawr yn lleol ac yn y cyngherddau a gynhaliwyd eisoes. Cefais gyfle i wylio un o sesiynau ymarfer y côr yn ddiweddar, a wnaeth gryn argraff arnaf. Diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich rhodd garedig, a llongyfarchiadau ar eich llwyddiant hyd yn hyn."

Mae'r côr yn croesawu aelodau newydd dros 18 oed sy'n mwynhau canu. Os hoffech ymuno â'r côr, anfonwch e-bost i [email protected]

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.