Mae Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei bodd ei bod wedi cael ei dewis yn Elusen y Flwyddyn gan Choirs For Good am y 12 mis nesaf. 

Menter gymdeithasol nid er elw yw Choirs For Good a sefydlwyd yn ystod pandemig Covid-19. Nod y rhwydwaith corau llesiant yw hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd corau cymunedol, yr effaith a gânt ar y gymuned leol a'u lle mewn cymdeithas ehangach fel ffordd gynaliadwy a hawdd o gefnogi a gwella iechyd a llesiant pobl.

Fel rhan o'u ‘Cenhadaeth Gwneud Daioni’, mae Choirs For Good yn dewis ‘Elusen y Flwyddyn’, lle bydd corau ledled Cymru yn dod ynghyd i godi arian i'w hachos dewisol. Ymgeisiodd mwy na 35 o elusennau i weithio mewn partneriaeth â'r corau cymunedol eleni a llwyddodd y panel o gantorion gwirfoddol eu cwtogi i bump, gan roi'r gair olaf i weddill yr aelodau.

Mae gan Choirs For Good 12 o gorau llesiant cymunedol ledled Cymru ac maent yn bwriadu gweithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian hanfodol i'r Elusen yn 2023. Mae corau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pontypridd, Y Fenni, Hwlffordd, Llanidloes, Aberystwyth, Wrecsam a Chonwy.

Mae'r cantorion yn rhagweld y byddant yn codi dros £5,000 drwy eu cyngherddau a gigiau, casgliadau bwcedi, digwyddiadau gwerthu cacennau, rafflau a mwy dros y 12 mis nesaf.

Dyma'r ail flwyddyn i Choirs For Good ddewis Elusen y Flwyddyn. Y llynedd, cefnogodd y côr Beiciau Gwaed Cymru, gan godi £6,500 i'r Elusen.

Izzy Rodrigues, dywedodd Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Choirs For Good ei fod yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gydag Ambiwlans Awyr Cymru dros y 12 mis nesaf.

Dywedodd: “Mae Choirs For Good yn falch iawn o gyhoeddi mai Ambiwlans Awyr Cymru yw ein Helusen y Flwyddyn newydd ar gyfer 2023. Ymgeisiodd mwy na 35 o elusennau am y bartneriaeth eleni ac roedd hi'n gystadleuaeth anodd. Rydym yn gyffrous iawn am ein blwyddyn gydag Ambiwlans Awyr Cymru.

“Bydd llawer o gyfleoedd perfformio ar gyfer ein 12 côr, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli, digwyddiadau her, a chasgliadau bwcedi. Cadwch lygad amdanom, a helpwch ni i gefnogi'r achos anhygoel hwn!”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion hael gan y cyhoedd er mwyn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

Dywedodd Rosie Thurston, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod ‘Choirs For Good’ wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2023.

“Mae ein Helusen yn edrych ymlaen at weithio gyda'r holl gorau cymunedol ledled Cymru dros y 12 mis nesaf ac rydym yn awyddus iawn i gael clywed eu cyngherddau a fydd er budd yr Elusen.

“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi dros £8 miliwn y flwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd, felly bydd rhoddion y côr yn gwneud gwahaniaeth a fydd yn achub bywydau.

“Dewch i gefnogi cyngherddau codi arian Choirs For Good dros y 12 mis nesaf, rwy'n sicr y byddant yn wledd i'r glust!”  

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn canu gyda Choirs For Good, maent bob amser yn chwilio am aelodau newydd. Ewch i wefan (Home | Choirs For Good) i gael rhagor o wybodaeth.