29 Mai 2018

Datganiad gan Ambiwlans Awyr Cymru

Ambiwlans Awyr Cymru yw’r gwasanaeth ambiwlans awyr swyddogol ar gyfer Cymru. Rydym yno bob diwrnod o’r flwyddyn ac yn barod i helpu unrhyw un yng Nghymru yn ystod ei oriau anoddaf. Mae’r elusen hefyd yn cynnal adran arbenigol ar gyfer ein cleifion ieuengaf - Ambiwlans Awyr Cymru i Blant.

Yn ddiweddar, rydym wedi derbyn ymholiadau gan y cyhoedd am elusen o Loegr (‘County Air Ambulance’) sydd wedi bod yn codi arian yng Nghymru.

Mae’r elusen gofrestredig hon wedi’i lleoli yn Walsall sydd hefyd yn defnyddio’r enw ‘HELP - Helicopter Emergency Landing Pads’). Nid yw’r ‘County Air Ambulance’ yn berchen ac nid ydynt yn gweithredu unrhyw hofrenyddion ambiwlans awyr. Maent yn codi arian er mwyn talu am safleoedd lanio hofrenyddion.

Rydym eisiau egluro i bob un o'n cefnogwyr nad oes gan Ambiwlans Awyr Cymru unrhyw gysylltiad gyda’r elusen yma. Mae rhai o’u hadnoddau marchnata yn cynnwys lluniau o hofrenyddion. Nid ein hofrenyddion ni yw’r rhain ac nid ydym yn gweithio nac yn derbyn arian o gwbl gan yr elusen ‘County Air Ambulance’. Nid ydym erioed wedi gweithio gyda’r elusen yma i adeiladu safleoedd glanio yng Nghymru.

Mae pob un o’n hadnoddau yn ddwyieithog ac wedi’u brandio’n glir gydag Ambiwlans Awyr Cymru arnynt yn goch a gwyrdd.

Rydym yn falch mai ni yw’r unig elusen ambiwlans awyr ar gyfer Cymru ac wedi ein lleoli yma hefyd. Mae ein hofrenyddion yng Nghaernarfon, y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd wedi ymateb i fwy na 28,000 o gyrchoedd achub ers i ni lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001. Wrth i iechyd gael ei ddatganoli o Loegr, rydym yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i drin a throsglwyddo cleifion.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithio weithiau i hyrwyddo ein Loteri Achub Bywyd. Mae ein tîm pob tro yn gwisgo siacedi coch sydd wedi’u brandio glir, ac yn arddangos bathodyn adnabod. Mae’r tîm wedi’i hyfforddi i safon uchel ac yn dilyn cod ymddygiad moesol, llym. Ein rhif elusen gofrestredig yw 1083645.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, ffoniwch 0300 0152 999, neu e-bostiwch [email protected]

Diolch

Enghreifftiau o ddeunyddiau Ambiwlans Awyr Cymru

Bagiau casglu drwy’r blwch post:

Siacedi tîm y Loteri Achub Bywyd: