27/04/2023

Merch a rheolwr cerddoriaeth fyw yn cynnal cyngerdd er cof am un a oedd yn caru cerddoriaeth roc i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn annisgwyl, roedd Stephen Powell, o Sir y Fflint, angen help Ambiwlans Awyr Cymru fis Hydref 2022 wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r criw, bu farw Stephen.

Roedd Stephen yn ffan mawr o gerddoriaeth roc ac yn mynd i gigiau yn wythnosol, yn bennaf y Tivoli, a oedd yn lleol iddo.

Mewn cyfnod o dristwch ofnadwy, trefnodd Steph, merch Stephen a Rokib Miah, rheolwr y lleoliad cerddoriaeth fyw, gyngerdd er cof am Stephen.

Dywedodd Steph: “Fe wnaethom benderfynu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru am eu hymdrechion arwrol gyda fy nhad ar ddiwrnod ei farwolaeth. Maent yn hollol ysbrydoledig, ac roeddem eisiau eu helpu gymaint â phosibl am mai gan roddion elusen yn unig y cânt eu hariannu. Roedd fy nhad hefyd yn gefnogwr enfawr o'r ambiwlans awyr ac yn rhoi arian yn rheolaidd.” 

Cynhaliwyd y digwyddiad sef 'A Show for Ste Powell' ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2023 yn y Tivoli Venue, lleoliad pwysig yn Sir y Fflint sydd wedi cynnal yr adloniant byw gorau yng Ngogledd Cymru dros sawl degawd.

Yn garedig, rhoddodd Rokib Miah yr ardal gerddoriaeth byw am ddim, gan alluogi'r holl arian o'r tocynnau i fynd yn uniongyrchol i Ambiwlans Awyr Cymru.

Hefyd perfformiodd pum band lleol roedd Stephen yn eu cefnogi, am ddim, sef: Crazee Bone, B4 Time, Blueberry Hawks, Hawker ac Insanity Beach. 

Disgrifiodd Steph ei thad fel person anhygoel. Dywedodd: “Nid oes digon o eiriau yn y byd i ddisgrifio fy nhad, roedd mor garedig, yn ofalgar, yn ddoniol, yn gymwynasgar ac yn gwneud ei orau o hyd i bawb. Byddai pawb sy'n adnabod fy nhad yn cytuno ei fod o'n anhygoel. Roedd o'n rociwr mawr ac yn gwneud popeth i'w deulu. Roedd yn fwy na thad, ef oedd fy ffrind gorau.

“Cawsom ein glynu at ein gilydd fel glud drwy gydol ein bywydau, felly mae dysgu byw hebddo yn anodd. Mae'n wir eu bod yn cymryd y rhai da yn gyntaf.”

Bu'r digwyddiad yn llwyddiant enfawr gan godi swm anhygoel o £3,034 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Steph: “Roedd A show for Ste yn y Tivoli yn llwyddiant mawr, o'r 5 band arbennig a chwaraeodd, i werthiannau'r tocynnau a'r ocsiwn a'r raffl codwyd swm anhygoel o £3034.”

“Roedd y sioe mor wych fel bod Rokib wedi trefnu sioe arall.”

Rhoddodd teulu a ffrindiau hefyd arian i'r dudalen gofundme a greodd Steph yn dilyn marwolaeth ei thad. Mae'r teulu wedi codi dros £4,400 ar gyfer yr Elusen.

Dywedodd Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Steph a'i theulu wedi gweld y gwaith anhygoel mae'r Elusen yn ei wneud. Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Stephen ac rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau.

“O'r hyn dwi wedi ei glywed roedd Stephen yn ddyn poblogaidd, ac mae hyn yn amlwg o'r gefnogaeth a gafwyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r rhai a gefnogodd y cyngerdd, ac yn diolch yn arbennig i Steph a Rokib am eu hymdrechion anhygoel.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad eleni, mae bellach wedi dod yn ddigwyddiad codi arian blynyddol. Bydd 'A Show for Ste Powell' yn dychwelyd i Tivoli ddydd Sadwrn 27 Ionawr 2024 ac unwaith eto bydd yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ewch i www.tivolivenue.com.