Codwyd arian i Ambiwlans Awyr Cymru mewn digwyddiad carafanio a gynhaliwyd ar Ystâd Rhug dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst.  Trefnwyd y digwyddiad gan Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni, sef Sir Clwyd.

Cyflwynodd yr Arglwydd Niwbwrch, perchennog Ystâd Rhug, siec am dros £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiweddar. Mae'r Ystâd yn codi arian yn rheolaidd i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnal digwyddiadau gan gynnwys Gwasanaeth Carolau Nadolig.

Wrth gyflwyno'r siec, dywedodd yr Arglwydd Niwbwrch, “Ar ran Ystâd Rhug a Chlwyd, Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae'n fraint gennyf gyflwyno'r siec hon i achos haeddiannol iawn. Gyda phoblogaeth wasgaredig a thirwedd amrywiol, mae llawer o bobl yng Nghymru yn byw mewn lleoliadau anghysbell, ymhell o ysbyty mawr neu arbenigol. Am y rhesymau hyn, mae angen amlwg am wasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn rhedeg y gwasanaeth, ac mae'r elusen yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi'r holl arian sydd ei angen i ymateb i alwadau o ddydd i ddydd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cwmpasu Cymru gyfan bob dydd. Mae ei hofrenyddion yn ymateb i tua 2,500 o alwadau bob blwyddyn, gan wasanaethu cefn gwlad yn ogystal â threfi a dinasoedd prysur, gan gynnwys arfordir Cymru a'r cadwyni eang o fynyddoedd. Mae'r pedwar safle yng Nghaernarfon, Llanelli, y Trallwng a Chaerdydd yn barod i achub bywydau ble bynnag y bo angen.

Dywedodd Capten James Grenfell, Peilot Rheoli Rhanbarthol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, “Ar ran ein peilotiaid, ein tîm meddygol, a'n staff yn Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch i chi am eich rhodd o £1,006.58. Diolch am adael i ni ddefnyddio'r ystâd ar gyfer penwythnos Clwyd 2020 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac am ein cefnogi. Mae eich cymorth yn golygu ein bod bellach yn gallu darparu gofal brys sy'n achub bywydau yng Nghymru 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.