Mae gyrrwr lori wedi dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed drwy ofyn i gneifiwr defaid eillio ei ben er mwyn codi arian i elusen!

Cododd Trevor Evans o Lanrhaeadr-ym-Mochnant dros £3,000 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cynnal digwyddiad codi arian yn ei neuadd bentref leol.

Roedd dros 130 o bobl yn y digwyddiad a oedd yn cynnwys band, disgo, mochyn rhost blasus i'w fwyta a raffl. Cafodd pen Trevor ei eillio gan Tom Morris, cneifiwr defaid lleol, a'r sylwebydd ar y noson oedd Richard ‘Dicko’ Morris.

Roedd y cneifiwr Tom Morris yn eillio ei ben ei hun yn rheolaidd ond dyma'r tro cyntaf iddo gael mynd yn agos at wallt Trevor.

Cynhaliodd y tad i ddau o blant ei ddigwyddiad codi arian ar y cyd â chlwb pêl-droed Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a wnaeth drefnu'r raffl, talu am logi'r neuadd a chyfrannu'r arian a godwyd wrth y drws.

Roedd Trevor wrth ei fodd i godi dros £3,000, gan gynnwys dros £700 a gafodd ei gyfrannu gan Glwb Pêl-droed Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Dywedodd: “Rwy'n hapus iawn â'r gefnogaeth a gefais. Gofynnais i lawer o bobl – pawb roeddwn i'n eu gweld – a hoffen nhw gyfrannu at y digwyddiad codi arian. Roedd yn ben-blwydd i'w gofio yn sicr. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd arian ac i'r clwb pêl-droed am ei gefnogaeth.

“Roedd pobl wedi mwynhau'r noson. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi gweld cneifiwr defaid yn eillio pen rhywun o'r blaen. Mae'n anarferol ac, ar ben hynny, dyma un o'r digwyddiadau cyntaf i'w cynnal ar ôl y cyfnod clo, ac roedd pawb wedi mwynhau'r noson. Mae gen i ffydd mawr yn Tom Morris, felly roeddwn i'n gwybod y byddai'n gwneud gwaith da.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn bendant, penderfynodd Trevor ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed mewn ffordd wahanol. Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gefnogi digwyddiad Trevor a rhoi arian i'r elusen. Bu'r digwyddiad yn llwyddiant mawr gan godi swm anhygoel o £3,000 i'n helusen sy'n achub bywydau. Diolch yn fawr iawn, Trevor. Mae'n rhaid dweud, mae Tom Morris wedi gwneud gwaith gwych! Bydd yr arian yn helpu'r elusen i fod yno i bobl Cymru 24/7.”

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad codi arian i ddathlu ei ben-blwydd, mae Trevor wedi tynnu coes ei ffrindiau gan ddweud y bydd yn gwneud yr un peth eto pan fydd yn 70 oed!