Mae'r gymuned yn Ystradgynlais wedi ymuno â'r clwb rygbi i godi dros £1,500 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae pobl o bob oed, yn amrywio o blant 4 oed i bensiynwyr 79 oed, wedi cwblhau sawl her er budd yr elusen sy'n achub bywydau.

Mae gan y clwb rygbi gysylltiadau agos â dau o feddygon yr Elusen, sef Dan Jenkins, Ymarferydd Gofal Critigol, a Ruby Thomas, Ymarferydd Trosglwyddo Hofrennydd, ac aeth ati i drefnu nifer o ddigwyddiadau codi arian, yn ogystal â chymryd rhan yn ymgyrch Fy20 yr Elusen.

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth, ac i gydnabod y garreg filltir hon, creodd yr Elusen ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Roedd Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her neu dasg iddynt eu hunain yn ymwneud â'r rhif ‘20’,  i'w chwblhau yn ystod mis Mawrth.

Wrth feddwl am y rheswm dros gymryd rhan yn ymgyrch codi arian Fy20, dywedodd Gareth Thomas: “Roedd yn golygu bod modd i aelodau Clwb Rygbi Ystradgynlais a'r gymuned leol gyfrannu yn ystod cyfnod anodd. Roedd hefyd yn wych ar gyfer iechyd a llesiant.”

Rhagorodd y clwb a'r gymuned ar y targed o godi £500, gan werthu crys rygbi Cymru am £750, yn ogystal â phrint o Stadiwm Principality, a roddwyd gan Riley Sporting Memories ac ART Design Cymru.

Wrth feddwl am Ambiwlans Awyr Cymru, ychwanegodd Gareth: “Mae'n bwysig dros ben. Mae'n wasanaeth sy'n achub bywydau na allem fyw hebddo am ei fod yn gallu cyrraedd pob cwr o Gymru mor gyflym. Fel clwb, rydym yn falch iawn o'n haelodau a gefnogodd yr ymgyrch codi arian hon.” 

Gwnaeth y grŵp Brownies lleol gymryd rhan hefyd, gan ddefnyddio'r ymgyrch fel rhan o'i ‘fathodyn elusen’.

Rhagorodd Elin Jones, sy'n 5 oed, a'i chwaer Catrin, sy'n 9 oed, ar eu targed o godi £50, gan godi £450. Roedd eu her yn cynnwys rhedeg 20 milltir, gan gynnwys llwybr i siop Friends of Wales Air Ambulance yn y dref.

Ymysg aelodau eraill o'r gymuned a gymerodd ran yn her Fy20 mae:

Mali Thomas, a ddyluniodd boster ac a redodd 20 milltir hefyd ar y cyd â'i brawd, Garin.

Cwblhaodd Glyn Rees, arlywydd y clwb rygbi, 20 milltir hefyd.

Aeth Josseff Evans, sy'n aelod o'r tîm dan 13 oed, ati i gerdded 20 milltir, a gwnaeth Liz McSloy a'i merched, Non a Cerys, yr un peth, yn ogystal â phobi cacennau ym mis Mawrth.

Ymunodd y brif sgwad yn yr ymgyrch hefyd, gan gwblhau nifer o heriau gwahanol.

Rhedodd Emyr Addey 20 milltir mewn diwrnod.

Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De: “Diolch yn fawr iawn i Glwb Rygbi Ystradgynlais a'r gymuned leol am wneud ymdrech enfawr yn ystod eu her Fy20.  Mae'n braf gweld y gymuned a'r clwb rygbi yn dod ynghyd i godi cymaint o arian i'n helusen sy'n achub bywydau.

“Roedd Fy20 yn ffordd wych i gyfranogwyr berchenogi'r her hon. Mae'r clwb rygbi a'r gymuned wedi bod yn greadigol iawn, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a thasgau gwahanol yn ymwneud â'r rhif 20.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymgyrch codi arian arbennig i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed, a diolch o galon i bawb a roddodd arian. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”