Mae Clwb Golff Dyffryn Llangollen wedi cyflwyno siec o £5,760 i Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddo ddewis yr elusen fel ei elusen ar gyfer y flwyddyn.

I ddechrau, dewiswyd yr elusen sy'n achub bywydau fel ei Elusen ar gyfer 2020 gan gapten y menywod Dr Margaret O'Sullivan, a chapten y dynion Andrew Brown, ond oherwydd pandemig y Coronafeirws, penderfynwyd y byddai eu rolau'n parhau am flwyddyn arall a chadwyd Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen y flwyddyn am 12 mis arall.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Gan fyfyrio ar y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Dr Margaret O'Sullivan, a fu'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam fel rhiwmatolegydd ymgynghorol am 23 mlynedd: “Gwnaethom benderfynu dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ein helusen gan ein bod ein dau yn gwerthfawrogi'r gwaith gwych y mae'r ambiwlans awyr yn ei wneud, ac roeddem yn awyddus i gefnogi elusen Gymreig lle caiff yr arian ei ddefnyddio ar gyfer y boblogaeth leol.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dyma'r tro cyntaf i'r clwb golff godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a chodwyd yr arian yn bennaf drwy gynnal diwrnod golff elusennol lle cafodd ffioedd cystadlu eu rhoi i gronfa'r elusen. Bu unigolion yn cyfrannu drwy gydol y flwyddyn hefyd.

Oherwydd cyfyngiadau'r pandemig, ni lwyddodd Clwb Golff Dyffryn Llangollen i gynnal arwerthiant, ac ni allai'r golffwyr ymgynnull yn adeilad y clwb.

Gan fyfyrio ar y swm gwych a godwyd, ychwanegodd Dr O'Sullivan: “O dan yr amgylchiadau yn sgil cyfyngiadau Covid, cyfyngwyd ar y cyfleoedd oedd gennym i godi arian ac felly rydym yn falch iawn o'r swm a godwyd.”

Dywedodd Debra Sima, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, y cyflwynwyd y siec iddi gan y ddau gapten: “Diolch yn fawr i Margaret ac Andrew am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn. Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, mae Clwb Golff Dyffryn Llangollen  wedi codi swm anhygoel o £5,760 ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch. Bydd pob rhodd yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru 24/7.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.