Llwyddodd Clwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled i godi cyfanswm rhagorol o £1,200 ar gyfer Elusen sy'n achub bywydau dros y Nadolig gan roi gwên ar wynebau plant yr ardal ar yr un pryd.

Trefnodd y Clwb, sydd wedi'i leoli yng Ngherrigydrudion, daith Siôn Corn gan addurno tractor a threlar ac ymweld â phentrefi lleol o amgylch Cerrigydrudion.

Roedd y digwyddiad llwyddiannus hefyd yn gyfle i ddod â'r aelodau ynghyd mewn lleoliad yn yr awyr agored yn dilyn cyfyngiadau COVID blaenorol.

Dywedodd Siôn Williams, arweinydd hapus iawn y Clwb: “Cawsom ymateb gwych ac roedd Siôn Corn a'r aelodau wedi'u synnu i weld y cynifer o bobl a ddaeth allan i'w weld.Roedd y plant yn gyffrous iawn i weld Siôn Corn a'r tractor wedi'i addurno.

“Roedd aelodau Ffermwyr Ifanc Uwchaled eisiau rhoi gwên ar wynebau pobl ar ôl cyfnod clo hir oherwydd COVID.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Debra Sima, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled a drefnodd ddigwyddiad gwych i'r bobl leol, a wnaeth hefyd godi swm anhygoel o £1,200 i'n Helusen sy'n achub bywydau. Mae rhoddion fel hyn yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr iawn i bawb a drefnodd daith Siôn Corn ac i bawb a roddodd arian i'r digwyddiad. Caiff eich rhodd ei werthfawrogi'n fawr.”