Mae claf caredig Ambiwlans Awyr Cymru yn hael iawn wedi rhoi gwerth £3,000 o enillion raffl yn ôl i'r Elusen a helpodd i achub ei bywyd.

Daeth Beverley Lewis yn gyntaf yn Raffl Haf Ambiwlans Awyr Cymru ac yn hytrach na chadw ei henillion, dewisodd yn anhunanol eu rhoi yn ôl i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Roedd Beverley, o dde orllewin Llundain, wedi bod yn teithio i Griccieth, yng Ngwynedd, ar wyliau gyda'i ffrindiau ar 3 Medi 2022, pan fu'n rhan o wrthdrawiad traffig ffordd yn y Bala.

Cyrhaeddodd tîm Ambiwlans Awyr Cymru yn gyflym i'r digwyddiad a darparwyd uwch ofal critigol a brofodd i fod yn allweddol yn sefydlogi Beverley cyn ei chludo i'r ganolfan trawma mawr yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke, ble treuliodd naw diwrnod a chael llawdriniaeth helaeth.

Roedd Beverley, 65, wedi penderfynu cadw mewn cysylltiad ag Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn ei damwain ac wedi dewis derbyn diweddariadau a gwybodaeth am yr Elusen drwy eu cyfathrebiadau e-bost a'u gwasanaeth post uniongyrchol.

Lansiwyd y raffl haf yn swyddogol gan y comedïwr Max Boyce ar 25 Mai a bu'n rhedeg am gyfnod o naw wythnos. Rhoddwyd gwobr o £3,000 am ddod yn gyntaf, £500 i'r ail a £300 fel gwobr i'r trydydd.  Gwerthwyd dros 39,000 o docynnau a chodwyd £50,000 yn ystod yr ymgyrch, a fydd yn caniatáu i'r elusen achub hyd yn oed mwy o fywydau.  

Prynodd Beverley, cyfreithwraig wedi ymddeol, docynnau raffl yn dilyn derbyn e-bost gan yr Elusen fel ffordd o fynegi ei diolch i Ambiwlans Awyr Cymru. Ei thocyn buddugol hi oedd un o'r tocynnau cyntaf a werthwyd! 

Dywedodd ei bod wedi ei synnu'n fawr pan enillodd ond yn gwybod ar unwaith y byddai'n rhoi ei henillion yn syth yn ôl i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd: "Dydw i ddim yn arfer ennill cystadlaethau na rafflau. I ddechrau, ystyriais anfon siec fel rhodd iddynt ond yna cofiais, pe bawn i yn ennill, byddwn yn gallu rhoi'r wobr yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru, felly prynais werth £20 o docynnau.

"Cefais fy synnu'n fawr pan dderbyniais alwad ffôn gan yr Elusen yn egluro mod i wedi ennill y wobr gyntaf.   Mae'n rhaid i'r Elusen i godi llawer o arian i sicrhau fod y gwasanaeth yn aros yn weithredol, ac mae wir yn wasanaeth pwysig i'r bobl. 

"Elwais o waith da Ambiwlans Awyr Cymru fis Medi diwethaf pan roeddwn yn rhan o wrthdrawiad traffig ffordd, a byddaf yn ddiolchgar i'r Elusen am byth. Rwy'n ddiolchgar am eu gofal, eu hamser a hiwmor y criw. Roeddent yn hynod dda am dawelu fy meddwl, yn hynod effeithlon ac yn garedig tu hwnt.  

"Ni allaf weld unrhyw fai ar waith Ambiwlans Awyr Cymru ac rwy'n hynod falch o gael rhoi'r arian yn ôl i achos mor werthfawr."

Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Tynnwyd y raffl yn ddall ddydd Mawrth 8 Awst 2023 gan gyn-glaf arall, Richard Jones.

Diolchodd Phae Jones, Uwch Reolwr Rhoddion Unigol a Chymynroddion Ambiwlans Awyr Cymru, i bawb am gefnogi'r raffl Haf a mynegodd ei diolch gwresog i Beverley am ei haelioni anhygoel.

Dywedodd: "Rydym wedi cyffroi gyda llwyddiant Raffl Haf yr Elusen ac yn hynod ddiolchgar i'n holl staff a'n gwirfoddolwyr a gymerodd ran yn lledaenu'r neges ac yn ymgysylltu â'n cymunedau lleol yn prynu ac yn gwerthu tocynnau raffl.

"Mae clywed stori ein prif enillydd gwobr a'i phrofiad ei hun gyda'n gwasanaeth sy'n achub bywydau, ac yna ei phenderfyniad i roi ei henillion yn ôl, yn anhygoel. Diolch yn fawr iawn.”