Gwnaeth adeiladwr wedi ymddeol a ddiberfeddodd ei hun ar ôl cwympo ar lif gron, godi ei goluddion ei hun a'u lapio mewn crys-t cyn gyrru ei hun i ysbyty cymunedol lleol am gymorth.  

Roedd Brendan Clancy wedi bod yn torri paledi yn ei ardd ar 9 Mehefin 2023 pan faglodd a chwympo ar lafn naw modfedd y llif, a dorrodd drwy ei abdomen i'w goluddion.  

Yn rhyfeddol, llwyddodd Mr Clancy o Gwmtwrch Uchaf, yng Nghwm Tawe, i yrru ei hun i Ysbyty Cymunedol Ystadgynlais, ddeng munud i ffwrdd.  

Roedd yn dipyn o syndod i staff yr ysbyty a galwodd y tîm am gymorth pellach. Galwyd am Ambiwlans Awyr Cymru yn fuan wedyn a hedfanodd at Mr Clancy yn yr ysbyty. 

Nid oes gan Ysbytai Cymunedol y cyfleusterau ar gyfer y math hwn o argyfwng meddygol, fodd bynnag, cymerodd y staff reolaeth lwyr o'r sefyllfa, gan roi'r gofal gorau posibl iddo wrth alw am gymorth pellach ar yr un pryd. Galwyd am Ambiwlans Awyr Cymru yn fuan wedyn a hedfanodd at Mr Clancy yn yr ysbyty. 

Dywedodd y dyn 68 oed: “Roedd gen i bedwar stac o baledi pedair troedfedd ac roeddwn i'n torri drwyddynt ac fe lithrais rywsut a chwympo ar y llif.   

“I ddechrau, disgynnais ar gefn y llif, ac roeddwn i'n meddwl 'mae hynny'n mynd i frifo', ond yna teimlais rywbeth meddal cyn sylweddoli bod fy ngholuddion yn dod allan. Allwn i ddim credu’r peth. Roeddent yn dal i ddod allan ac roedd yn teimlo fel na fyddai'n stopio.  

“Roedd bwced ar y llawr ond roedd hwnnw'n fudr, ac nid oeddwn yn teimlo y gallwn i ei ddefnyddio, felly es i'r tu mewn, cydio mewn crys-t a'u lapio yn hwnnw. Mae'n rhaid bod yr adrenalin yn fy nghadw i fynd. Roeddwn i'n gwybod bod angen cymorth arna i ond roeddwn i hefyd yn gwybod na allwn i aros i rywun gyrraedd.  

“Roedd fy ngwraig i ffwrdd yng Nghaerfyrddin ac roedd fy ffôn yn fy mhoced lle'r oedd fy ngholuddion yn gorlifo. Gyrrais fy hun i'r uned mân anafiadau sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Ystradgynlais.  

“Roeddwn i'n gwneud yn siŵr fy mod i'n canolbwyntio ar y ffordd wrth yrru. Nid yw fy nghar yn awtomatig, ac roedd fy ngholuddion ar hyd ochr lifer y gêr, ond roedd gorfod newid gêr yn fy helpu i beidio â meddwl am hynny. Pan fyddwch chi'n cario eich coluddion, yr unig beth rydych chi'n meddwl amdano yw eu cadw mewn un lle.  

“Nid oedd unrhyw waed er i'r llif dorri drwy tua phedair modfedd o fy ngholuddyn, ond roeddwn i'n gallu gweld yr hyn a gefais i frecwast.  

“Pan gyrhaeddais yr ysbyty, roedd dwy fenyw yn dod allan a gwnaethant ddweud eu bod nhw ar fin cau. Gwnaethant edrych i lawr a gweld fy mag o goluddion a galw ambiwlans i mi. Dim ond pan gefais fy rhoi ar droli y teimlais i bwl o boen.” 

Aethpwyd â Brendan i gaeau chwarae Pontardawe gerllaw lle'r oedd hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru yn aros amdano.  

Dywedodd y tad o bump: “Roedd dod oddi ar y troli ac ar y gwely cludo yn boenus, ond roedd y criw yn ardderchog ac yn gymaint o gysur i mi. Cefais feddyginiaeth i leddfu'r boen ac rwy'n cofio'r coed yn troi'n lliw pinc a'r cymylau'n edrych yn rhyfedd. 

“Roedd un o'r meddygon yn codi ei fawd arnaf drwy'r adeg a byddwn i'n gwneud yr un fath yn ôl. O fewn 15 munud roeddem yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.”  

Aeth Brendan yn syth i'r theatr llawdriniaeth a chafodd bedair awr o lawdriniaeth, cyn dychwelyd adref ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.  

Wrth fyfyrio ar y gofal a gafodd, dywedodd Brendan: “Does gen i ddim byd gwael i'w ddweud am Ambiwlans Awyr Cymru; roedd pob un ohonynt yn wirioneddol wych.   Rwyf wedi byw ym mhob cwr o'r byd ac yn fy nhyb i nid oes gwasanaeth arall yn y byd sy'n well na'r elusen hon.” 

“Rwy'n falch o fod wedi gallu rhannu fy stori a chodi proffil yr Elusen. Rwy'n gwerthfawrogi pa mor lwcus ydw i i fod yn fyw a pha mor lwcus rydym ni i gael gwasanaeth mor arbennig yn y wlad hon. Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fy helpu ar ddiwrnod y ddamwain.  

“Rwy'n llawn canmoliaeth o'r bobl a ofalodd amdanaf.”  

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae'r Gwasanaeth yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

Arweinir Ambiwlans Awyr Cymru gan feddygon ymgynghorol, sy'n darparu triniaeth o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Disgrifir y Gwasanaeth yn aml fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’. 

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, mae ein criwiau sydd wedi cael lefel uchel o hyfforddiant yn teithio ledled y wlad yn darparu gofal hanfodol sy'n achub bywydau lle bynnag y bydd ei angen. 

Yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr EMRTS, oedd yr ymgynghorydd gofal critigol a ofalodd am Mr Clancy, ynghyd â'r Ymarferydd Gofal Critigol, Tom Archer. 

Dywedodd: “Mae'n dda clywed ei fod wedi gwella mor gyflym. Mae'n bwysig cydnabod rôl ein cydweithwyr yn Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais yn y canlyniad cadarnhaol hwn, yn ogystal â chlinigwyr ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. 

Er bod canlyniad yr achos hwn yn un cadarnhaol, byddem bob amser yn cynghori unrhyw un mewn argyfwng i ffonio 999 ar unwaith. Mae hefyd yn atgoffa pawb i fod yn ofalus wrth ddefnyddio offer pŵer.”   

Mae Brendan wedi gwella'n llwyr heb unrhyw anafiadau parhaol, heblaw am graith 12 modfedd o hyd.