Mae beiciwr modur o Abertawe a gafodd anaf difrifol i'r ymennydd ar ôl syrthio oddi ar ei feic wedi dweud fwy na thebyg na fyddai'n fyw heddiw heb Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd Darren Lewis, o Benplas yn Abertawe, ei daflu oddi ar ei feic modur yn y Mwmbwls fis Mai 2021 ar ôl i gi redeg allan rhwng dau gar a oedd wedi parcio.

Torrodd ei benglog mewn pum gwahanol fan, a chafodd anaf trawmatig i'r ymennydd a newidiodd ei fywyd, gan dreulio pythefnos yn yr ysbyty cyn cael ei drosglwyddo i'r Uned Niwro-adsefydlu yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Er ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae'n wynebu anawsterau sy'n effeithio ar ei fywyd dyddiol o hyd, a bydd yr anawsterau hynny yn parhau gydol oes.

Er gwaethaf yr heriau parhaus y mae'n eu hwynebu, cymerodd Darren ran mewn taith noddedig 12 milltir o hyd ar ei feic yn ddiweddar, o Glwb Rygbi Dynfant i Knab Rock yn y Mwmbwls ac yn ôl er mwyn helpu i godi proffil Ambiwlans Awyr Cymru a chodi arian i'r Gwasanaeth Anafiadau i'r Ymennydd a roddodd gymorth iddo.

Dywedodd Darren, sy'n dad i un plentyn, y byddai ei ddyled i'r criw a'i helpodd yn barhaus.

Dywedodd: “Oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru, ni fyddwn i yma heddiw. Mae'r gwaith y mae criw Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud yn anhygoel. Mae gen i barch mawr tuag atynt.

“Heb yr ambiwlans awyr, fwy na thebyg y byddwn i wedi marw. Does wybod beth fyddai wedi digwydd pa na fyddai'r ambiwlans awyr wedi gallu fy nghyrraedd y diwrnod hwnnw.

“Bob tro rwy'n gweld yr hofrennydd, rwy'n ystyried pa mor ffodus oeddwn i fod yr hofrennydd ar gael i'm cludo i'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig ydyw tan iddo ddigwydd i chi. Byddaf bob amser yn ddiolchgar iddynt am achub fy mywyd y diwrnod hwnnw.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion y cyhoedd i godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae'r Elusen yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Ers damwain Darren, mae wedi cael trafferthion cofio, canolbwyntio a siarad. Roedd yn cael pyliau o bendro pan oedd ar ei draed i ddechrau yn ogystal â phroblemau o ran colli ei glyw, a gafodd effaith ar ei gydbwysedd a'i symudedd. Roedd hefyd yn blino'n ofnadwy, sef un o effeithiau mwyaf cyffredin anaf i'r ymennydd, a gall hefyd arwain at newidiadau sydyn mewn hwyliau, teimladau o anniddigrwydd, rhwystredigaeth a dicter.

Roedd y dyn 48 oed yn arfer gweithio fel swyddog diogelwch, mewn lleoliadau gan gynnwys Prifysgol Abertawe, ond o ganlyniad i'r anaf, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i weithio.

Dywedodd: “Cafodd yr anaf effaith ar fy nghydbwysedd, rwy'n fyddar mewn un glust felly mae'n rhaid i bobl sefyll ar fy ochr chwith er mwyn siarad â fi, ac mae hynny wedi cael effaith ar fy nhymer ac rwy'n fyr fy amynedd gyda phobl.

“Roeddwn yn arfer codi, mynd i'r gwaith, gwneud beth oedd yn rhaid i fi ei wneud, ac rwyf wedi bod yn ymdrechu i ddychwelyd i ryw drefn a mynd allan eto, ond ambell ddiwrnod, does dim amynedd gen i wneud hynny.

“Rwyf wedi cael gwybod nad wyf i'n debygol o allu gwneud beth oeddwn i'n arfer ei wneud, a bydd gwneud rhywbeth ar fy nhraed fel llenwi silffoedd yn anodd am fy mod yn cael pyliau o bendro, ac mae fy nghof yn wael, felly dydw i ddim yn gwybod pwy fyddai'n rhoi swydd i fi. Ar hyn o bryd, fy ngwraig Joanne sy'n ein cynnal. Mae hi a fy mab Deon wedi bod yn gefn mawr i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf mor ddiolchgar iddynt.”

Mae Darren wedi penderfynu herio ei hun drwy gymryd rhan mewn taith noddedig ar ei feic er mwyn rhoi ffocws iddo. Rhannodd y daith yn adrannau llai, ochr yn ochr â'i arbenigwr adsefydlu Rob May, a dywedodd ei fod yn ddiwrnod emosiynol.

Dywedodd: “Aethom ar hyd y llwybr beicio yn Nynfant am mai dyma oedd y ffordd fwyaf diogel. Roeddwn i'n poeni ar y dechrau na fyddwn i'n gallu cwblhau'r daith, am mai hon oedd fy her gyntaf ers y ddamwain. Ond aethom yn araf a chael seibiannau rheolaidd. Wrth deithio ar hyd Mumbles Road, cefais fy atgoffa ar adegau o fod ar fy meic modur, ond drwy fwrw ati a brwydro yn erbyn y blinder, llwyddais i gwblhau'r her.

“Roedd yn anodd ar y ffordd yn ôl a cherddais rywfaint o'r pellter. Rwy'n falch iawn fy mod wedi'i wneud ac rwy'n edrych ymlaen at yr her nesaf.”

Dywedodd Laura Slate, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cryfder Darren yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae wedi cael profiad sy'n anodd i ni ei ddychmygu, ac rydym yn falch iawn clywed am lwyddiant ei her.

“Rydym wrth ein bodd yn clywed gan gyn-gleifion, ac mae'n golygu llawer iawn i bawb yn yr Elusen; dymunwn y gorau i Darren.”

 

Delweddau: Darren, dde, gyda Rob May