Mae menyw o Gastell-nedd yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgyrch codi arian rithwir ffitrwydd y mis hwn er mwyn helpu i gefnogi'r Elusen a ddaeth i helpu ei brawd ar ôl iddo gael trawiad angheuol ar ei galon.  

Cafodd Laura Jones, o London Road, Castell-nedd, ei hysbrydoli i ymgymryd ag ymgyrch flynyddol 'Milltiroedd Hedfan' Ambiwlans Awyr Cymru fis Ionawr diwethaf, ychydig fisoedd ar ôl i Gary, ei brawd hŷn, fynd yn sâl yn sydyn yn ei gartref.  

Aeth y meddygon ar Ambiwlans Awyr Cymru at Gary yn ei gartref ym Mryn-coch ond er gwaethaf pob ymdrech ac yn drist iawn, ni wnaethant lwyddo i achub ei fywyd.  

Dywedodd Laura, sy'n 56 oed: "Ar 12 Hydref, 2022, yn drist iawn, cafodd Gary, fy mrawd hŷn, drawiad annisgwyl ar ei galon, a bu farw. Roedd yn heini ac yn iach, ac ond yn 67 oed, felly roedd ei farwolaeth yn sioc anferth i bob un ohonom.  

"Ar ôl cael cawod y bore hwnnw, roedd Gary wedi mynd i'w ystafell wely i orwedd ar ei wely. Pan aeth fy chwaer yng nghyfraith i fyny'r grisiau, roedd yn ymddangos fel ei fod wedi marw. Ffoniodd 999 ar unwaith, ac eglurwyd iddi sut i roi CPR iddo. O fewn cyfnod byr iawn o amser, cyrhaeddodd y meddygon a chymryd drosodd, a phan glywodd hi'r ambiwlans awyr yn cyrraedd, cododd ei gobeithion gan feddwl efallai y byddent yn gallu ei adfer. Er gwaethaf eu holl ymdrechion a'u gwaith diflino, ni allwyd ei achub. 

"Roedd fy chwaer yng nghyfraith yn llawn canmoliaeth o'r meddygon a gymerodd ran, ynghyd â holl staff yr ambiwlans awyr yn benodol a fu mor garedig â hi, ac a ddarparodd ôl-ofal i'r teulu. Gwnaethom ddewis rhoddion er cof am fy mrawd ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ac roedd yn syndod cael gwybod bod y gwasanaeth yn dibynnu'n llwyr ar roddion i weithredu ei gerbydau." 

Fel diolch i Ambiwlans Awyr Cymru ac er cof am ei brawd, penderfynodd Laura gofrestru ar gyfer her rithwir Fy Milltiroedd Hedfan yr Elusen.  

Mae'r ymgyrch codi arian yn rhoi'r cyfle i gyfranogwyr redeg, loncian neu gerdded 25, 50 neu 100 o filltiroedd drwy gydol mis Ionawr. Dyma'r cyfle perffaith i fod yn fwy iach ac i osod her bersonol, ac mae'n ysgogwr delfrydol i ddechrau gosod nodau newydd drwy gydol y flwyddyn.  

Gall y sawl sy'n cofrestru ymuno â theulu a ffrindiau i gyflawni eu milltiroedd, a chaiff gweithleoedd, sefydliadau ac ysgolion eu hannog i gymryd rhan. Bydd pob ysgol sy'n cofrestru yn cael tegan meddal o Del y Ddraig, y masgot, er mwyn helpu i gyflawni'r milltiroedd. 

Gallwch gofrestru ar gyfer 'Fy Milltiroedd Hedfan' am ddim, ac os bydd y cyfranogwyr yn codi £100 i Ambiwlans Awyr Cymru, byddant yn cael medal 'Fy Milltiroedd Hedfan'. 

Dywedodd Laura: "Cymerais ran y llynedd ar ôl iddo ymddangos ar fy nhudalen Facebook ar Nos Galan. Y Nadolig hwnnw oedd y cyntaf heb fy mrawd ac roeddwn yn teimlo y byddwn yn hoff o ddechrau'r Flwyddyn Newydd yn gwneud rhywbeth er cof amdano yn hytrach nag eistedd gartref.  

"Gosodais darged i mi fy hun, a rhoddodd rywbeth cadarnhaol i mi ganolbwyntio arno. Roedd yn deimlad braf gwybod fy mod yn gwneud rhywbeth er mwyn helpu i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, a oedd wedi bod mor dda gydag ef ac yn gymorth gwych i'n teulu wedyn. 

"Rhedais 40 o filltiroedd ym mhob tywydd drwy gydol y mis, a chodais £1,295. Rhoddodd ychydig o amser i mi alaru ar ben fy hun a meddwl amdano, a sicrheais fy mod bob amser yn rhedeg heibio'r Capel Gorffwys i'm helpu i ddal ati. Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan am ei bod yn dda gosod her i'ch hun ar gyfer y Flwyddyn Newydd, gan helpu i godi arian ar gyfer achos mor anhygoel hefyd. Byddaf bob amser yn dweud wrth bobl, dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen Ambiwlans Awyr Cymru arnoch chi, neu aelod o'ch teulu. 

Yn dilyn her Fy Milltiroedd Hedfan, cafodd Laura ei hannog i barhau i godi arian ac ar 7 Hydref 2023, dringodd i gopa Pen y Fan, i nodi blwyddyn ers colli ei brawd. Cododd £355 a dywedodd y byddai'n parhau i godi arian ar gyfer yr Elusen.  

Dywedodd: "Mae'r Elusen yn agos iawn at fy nghalon a byddaf yn cofio'r gofal a roddwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru am byth. Rhowch eich esgidiau rhedeg ymlaen a gwnewch rywbeth hwyliog i ddechrau 2024." 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym. 

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.   

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. 

Dywedodd Tracey Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Fy Milltiroedd Hedfan yn ffordd wych o ddechrau'r flwyddyn newydd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, bydd pobl yn gwneud addunedau ar gyfer y Flwyddyn Newydd, felly beth am osod her i'ch hun i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru?  

“Gallwch ddewis nifer y milltiroedd, a ph'un a ydych am redeg, cerdded, loncian neu hyd yn oed gyfuniad o'r rhain. Trwy gymryd rhan, gallwch ein helpu i barhau i achub bywydau ledled Cymru.”  

Os hoffech gymryd rhan fel grŵp, anfonwch e-bost at dîm digwyddiadau'r Elusen ar [email protected] a nodwch nifer yr unigolion sy'n bwriadu cymryd rhan.  

Os hoffech ein helpu i barhau i achub bywydau ledled ein gwlad eleni, gallwch gofrestru ar gyfer yr her drwy grŵp Facebook Fy Milltiroedd Hedfan 2024 yma  a llenwi ffurflen gofrestru.