Cyhoeddwyd: 05 Mawrth 2024

Mae grŵp côr Cymru gyfan wedi canu â'u holl galonnau i godi dros £14,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. 

Dewisiodd Choirs for Good Ambiwlans Awyr Cymru fel eu Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2023 ar ôl iddo dderbyn mwyafrif anhygoel o bleidleisiau gan aelodau'r côr.

Mae'r busnes cymdeithasol nid er elw yn cynnwys 12 o gorau, gyda phob un ohonynt wedi'i leoli ledled Cymru. Mae dros 450 o aelodau yn cwrdd bob wythnos gyda'r weledigaeth i greu byd lle caiff corau eu rhoi wrth wraidd cymunedau lleol.

Dywedodd Izzy Rodrigues, Cyd-Sylfaenwr, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Côr Choirs for Good: "Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, daeth yn fwyfwy amlwg fod gan lawer o'n cantorion reswm personol dros bleidleisio dros Ambiwlans Awyr Cymru, neu gysylltiad personol â nhw. Fel arweinwyr y côr, gwnaethom ddechrau clywed straeon gan aelodau ein côr am y cymorth roeddent wedi'i gael gan Ambiwlans Awyr Cymru.

"Cafodd llawer o'n haelodau a'n harweinwyr côr y cyfle i ddysgu mwy am yr elusen eleni. Nid oedd llawer ohonom wedi sylweddoli y lefel o ofal a all gael ei roi gan Ambiwlans Awyr Cymru, megis llawdriniaeth agored ar ochr y ffordd.

"Gwnaethom ddysgu hefyd am y cerbydau ymateb cyflym ac am y gwasanaeth ôl-ofal hanfodol a ddarperir gan y tîm. Mae'n debyg fod cleifion a'u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwasanaeth wedi profi rhywbeth a newidiodd eu bywyd, neu wedi colli anwyliaid, gan orfodi iddynt brosesu llawer o drawma a galar. Felly er nad yw'r cymorth bugeiliol a ddarperir gan yr Elusen o bosib yn adnabyddus iawn, mae'r un mor bwysig i'r bobl sydd ei angen."

Yn ystod y flwyddyn, perfformiodd y côr dros 120 o weithiau ledled Cymru a'r de orllewin. Roedd 46 o'r perfformiadau hynny yn codi arian yn benodol ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau. Roedd y digwyddiadau codi arian yn cynnwys casgliadau mewn canolfannau siopa, canu ar y strydoedd, a chyngherddau hyfryd.

Cynhaliwyd achlysuron cymdeithasol yn ogystal â rafflau gan aelodau'r Côr, a llwyddodd un unigolyn, Veronica Patrick, i godi £1,300 ar gyfer yr achos am iddi ymgymryd â her "Triathlon" am flwyddyn.

Dyma'r ail flwyddyn i'r côr ddewis Elusen y Flwyddyn. Gwnaethant ddewis Blood Bikes Cymru yn eu blwyddyn gyntaf a llwyddwyd i godi £6,500 iddynt.

Dywedodd Izzy, wrth fyfyrio ar faint o arian a godwyd eleni ar gyfer Elusen: "Rydym yn falch iawn o aelodau ein côr! Roeddem wedi gobeithio gwella ein swm llynedd, ond nid oeddem wedi disgwyl codi ddwywaith cymaint, heb sôn am gyrraedd £14,000. Mae'n hyfryd gallu rhoi yn ôl wrth wneud rhywbeth rydych yn ei garu, mae'n wir wedi bod yn ymdeimlad o gyflawniad.

"Mae ein corau'n cefnogi digwyddiadau cymunedol ac elusennol lleol ar gyfer achosion amrywiol drwy gydol y flwyddyn, ond mae cael Elusen y Flwyddyn yn rhoi nod cyffredin i ni weithio tuag ati. Wrth i ni wasgaru ledled y wlad, rhoddir cyfle i'n teulu o gorau ddod at ei gilydd.Mae Choirs for Good yn ceisio defnyddio canu fel arf er mwyn helpu pobl i deimlo'n dda, ond gellir gwneud hynny mewn sawl ffordd wahanol ac mae codi cryn swm o arian yn dangos y pŵer o fewn cymunedau wrth iddynt ddod ynghyd i wneud rhywbeth da ac ystyrlon.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Gall hyn olygu bod y claf yn arbed oriau o amser o gymharu â'r gofal arferol, a phrofir i wella'r siawns y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar.

Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy'n gweithio o fewn cerbydau'r Elusen.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch yn fawr iawn i bawb yn Choirs for Good, a weithiodd yn galed drwy gydol y flwyddyn i godi swm anhygoel o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Gwnaethant gynnal sawl cyngerdd ledled Cymru er mwyn cefnogi ein helusen a gaiff ei hariannu gan y cyhoedd, sy'n anhygoel.

"Mae angen i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau godi £11.2 miliwn pob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd, bydd y cyfraniad hwn yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr.”

Mae Choirs for Good yn sefydliad nid er elw. Maent yn croesawu aelodau newydd drwy gydol y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth am sut i ymuno â'r côr, ewch i www.choirsforgood.com/join