Ar ôl codi'r swm anhygoel o £24,615 i'r elusen yn 2021, mae'r cyfanswm sydd wedi'i roi gan staff ymroddedig a chwsmeriaid hael Charlies Stores bellach wedi cyrraedd £131,252.

Rhoddwyd £2 am bob coeden Nadolig go iawn a werthwyd, sydd wedi dod yn draddodiad blynyddol ar yr adeg honno o'r flwyddyn i Charlies.  Felly, codwyd dros £12,000 o'r gwerthiannau hyn yn unig.

Clywyd canu da dros gyfnod y Nadolig mewn pedair o'r siopau a groesawodd rai cantorion arbennig. Ymunodd tri charw â'r siop yng Nghoed-y-Dinas, croesawodd y Fferi Isaf sawl ieti a'r Amwythig sawl pengwin a chyfareddodd y carw siaradus yng Nghaerfyrddin gwsmeriaid â'i ddymuniadau da.

Er mwyn ychwanegu at y pot croesawodd y siop yng Nghoed-y-Dinas rai ceirw go iawn a chafodd plant gyfle i fynd ar gefn asyn.

Caiff yr arian ei rannu gyda £18,540 yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru a £6,075 i Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Charlies Stores, Rebecca Lloyd: “Yn y cyfnod anodd hwn mae haelioni ein cwsmeriaid a'n staff wedi bod yn anhygoel. Yn fwy nag erioed, roedd yn bwysig i ni ein bod yn chwarae rhan wrth greu profiadau ystyrlon i'n cwsmeriaid dros yr ŵyl. Rydym wrth ein bodd yn gweld lluniau o'n cwsmeriaid yn mwynhau'r hyn rydym wedi'i greu yn ein siopau a'r ffaith bod hyn hefyd wedi ein helpu i godi swm cystal o arian i'r Ambiwlans Awyr yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy gwerth chweil. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth parhaus a hoffem ddiolch i bawb a ymwelodd â ni ac a roddodd yr arian y mae ei fawr angen.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym mor ddiolchgar i Charlies Stores am ei gymorth, mae'r staff wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl gyda'u hymdrechion i wneud gwahaniaeth. Mae manteisio ar y cyfle i gefnogi ein helusen yn dangos y gwerthoedd teuluol a chymunedol sydd wrth wraidd Charlies. Nid yw Ambiwlans Awyr Cymru yn cael arian gan y Llywodraeth a phobl Cymru yn unig sy'n ei hariannu. Mae pob galwad yn costio tua £2,500 ac, felly, bydd y swm anhygoel hwn a godwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran achub bywydau yn y gymuned. Mae Charlies Stores yn arwain y ffordd yn y diwydiant fel cefnogwr elusen a gobeithio y bydd busnesau eraill yn dysgu o'i esiampl ac yn gweld y manteision pellgyrhaeddol a ddaw o gefnogi achos y mae'r cwmni a'i gwsmeriaid yn credu ynddo.”

Lansiwyd Ambiwlans Awyr Cymru Ddydd Gŵyl Dewi 2001. O ddechrau dinod fel gwasanaeth un hofrennydd, yr elusen bellach yw'r gweithrediad ambiwlans awyr mwyaf yn y DU gyda phedair awyren ar safleoedd yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi.

Daeth yr Elusen yn wasanaeth 24 awr ar 1 Rhagfyr 2020 ac er mwyn parhau i redeg y gwasanaeth ddydd a nos mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn.