Ar ôl codi swm anhygoel o £22,109 ar gyfer yr elusen yn 2020, mae staff ymroddedig a chwsmeriaid hael Charlies Stores wedi rhoi cyfanswm o £106,637 erbyn hyn.

Fel sy'n draddodiad adeg y Nadolig erbyn hyn, cafodd £2 ei roi i'r elusen am bob coeden Nadolig go iawn a gafodd ei gwerthu. Eleni, cafodd cyfanswm o 5,300 o goed eu gwerthu ar draws pob un o'r siopau.

Roedd tair siop yn benodol llawn o hwyl yr ŵyl, gan groesawu ymwelwyr arbennig i ganu i gwsmeriaid yn y siopau. Ymwelodd tri phengwin â siop Coed-y-Dinas, croesawodd siop Queensferry geirw a chododd ieti siop yr Amwythig galon cwsmeriaid gyda'i ganeuon Nadolig.

Caiff yr arian ei rannu rhwng dwy elusen, gyda £14,900 yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru a £7,209 yn mynd i Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Charlies Stores, Rebecca Lloyd: “Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae haelioni ein cwsmeriaid a’n staff wedi ein syfrdanu. Roedd yn teimlo’n bwysicach nag erioed o’r blaen i godi arian ar gyfer achos mor haeddiannol, ac rydym mor ddiolchgar am y cymorth. Mae codi dros £100,000 yn gwneud i mi deimlo’n hynod o falch a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi’r arian y mae ei angen yn fawr ar yr Ambiwlans Awyr dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i staff a chwsmeriaid Charlies Stores am barhau i gefnogi ein Helusen. Mae £14,900 yn swm anhygoel o arian, yn enwedig yn sgil yr heriau a wynebwyd yn ystod y pandemig.

“Fis Rhagfyr diwethaf, daeth Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth 24/7 ac er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr, mae angen i ni godi £8 miliwn y flwyddyn. Bydd y rhodd hwn yn ein helpu i wasanaethu Cymru ac achub bywydau, ddydd a nos.”

Lansiwyd Ambiwlans Awyr Cymru Ddydd Gŵyl Dewi 2001. Ar ôl dechrau yn syml fel gwasanaeth un hofrennydd, mae wedi tyfu, ac erbyn hyn dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU, gyda phedwar hofrennydd ar safleoedd yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig i'r wlad. Daeth y gwasanaeth yn wasanaeth 24 awr ar 1 Rhagfyr 2020, ac er mwyn parhau i redeg y gwasanaeth ddydd a nos, mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn.