Mae chwe cherflun o gestyll lliwgar wedi ymddangos ledled Abertawe wrth i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gynnal llwybr bach am ddim – antur berffaith dros wyliau'r haf i blant ac oedolion.

Gallwch ddod o hyd i'r cerfluniau 7 troedfedd arbennig ar Nelson Street, St David's Green, Parc Sglefrio'r Mwmbwls, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Parc Tawe a Chanolfan Siopa Quadrant. Byddant yno tan ddechrau mis Medi.

Mae'r llwybr bach hwn, sy'n dwyn y teitl ‘Castles in the Sky’, yn rhagflas ar gyfer y prif ddigwyddiad a fydd yn gael ei gynnal ledled y ddinas y flwyddyn nesaf. Yn ystod haf 2024 bydd tua 30 o gerfluniau o gestyll wedi'u haddurno'n unigryw i'w gweld mewn lleoliadau amrywiol ledled Abertawe yn un o'r digwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf i'w gynnal yn y ddinas erioed.

Caiff y rhai sy'n dilyn y llwybr bach eu hannog i dynnu lluniau o'r cestyll a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a thagio Ambiwlans Awyr Cymru a Chestyll Abertawe.

Mae AGB (Ardal Gwella Busnes) Abertawe, BDP Wales, argraffwyr sydd wedi'u lleoli yn Abertawe, ac Owens Group o Lanelli wedi cofrestru i fod yn bartneriaid swyddogol i Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Castles in the Sky. Ymhlith noddwyr eraill y cestyll mae Ascona Group, Gwasanaeth Mabwysiadu Western Bay, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Cafodd gwaith celf y cestyll ei greu gan yr artistiaid Barry John, Louise Jones, Keely Clarke, Diana Brook, Marnie Maurri a Melody Angel.

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Castles in the Sky yn tanio'r dychymyg drwy gydblethu diwylliant, celf a hanes Cymru ar ffurf llwybr celf gyhoeddus. Mae'r digwyddiad wedi dod i Abertawe drwy law Ambiwlans Awyr Cymru, a'r cwmni digwyddiadau celf cyfranogiad torfol byd-enwog, Wild in Art.

“Cyn lansio ein llwybr celf Castles in the Sky yn ystod haf 2024, roeddem am roi 'llwybr rhagflas', yn cynnig rhagolwg ar yr hyn y gallech ei weld ar raddfa gymaint yn fwy y flwyddyn nesaf. Felly, rydym yn hynod falch o rannu chwech o'r dyluniadau er mwyn ennyn diddordeb pobl yn yr  arddangosfa hon mewn 12 mis.”

Yn ogystal â chreu profiad hwyliog am ddim, mae agwedd ddifrifol ar lwybr Castles in the Sky. Ei nod yw hyrwyddo a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae angen i'r Elusen sy'n achub bywydau godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrennydd yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae AGB Abertawe wedi dangos cefnogaeth i'r llwybr o'r dechrau, gan ddweud ei bod yn bleser gweithio gyda'r Elusen fel Prif Bartner.

Ers ei sefydlu yn 2006, mae AGB Abertawe wedi bod yn un o'r mentrau mwyaf cyffrous i'w datblygu gan gymuned fusnes y ddinas gyda'r nod o roi canol dinas Abertawe ar y map. Mae'n cyflwyno syniadau, mentrau a buddsoddiadau allweddol drwy'r amser er mwyn gwneud yr ardal AGB yn lle gwell i siopa, astudio, aros, cynnal busnes ac i ymweld ag ef.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB Abertawe, ei fod yn credu y bydd y digwyddiad Castles in the Sky yn cynnig nifer o gymhellion a buddion i'r ddinas yn ogystal â dod â'r gymuned ynghyd.

Dywedodd: “Rwy'n credu mai Castles in the Sky fydd un o'r prosiectau celf mwyaf uchelgeisiol a llawn hwyl y mae'r ddinas erioed wedi ei weld. Mae'n gyfle gwych i ddod â'r ddinas ynghyd a chysylltu busnesau, artistiaid a phreswylwyr drwy bŵer creadigrwydd ac arloesedd.

“Mae AGB Abertawe yn falch o fod yn Brif Bartner Castles in the Sky. Mae nifer enfawr o gymhellion a buddion yn sgil cymryd rhan mewn prosiect mor unigryw ar y raddfa hon.”

Ychwanegodd Siany Martin: “Mae'n bleser gennym weithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau anhygoel ar gyfer ein llwybr celf gyhoeddus Castles in the Sky ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cefnogaeth.

“Mae cyfleoedd nawdd ar gael i sefydliadau a hoffai noddi castell yn ystod y prif ddigwyddiad y flwyddyn nesaf. Mae'n gyhoeddusrwydd gwych, ac yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth bythgofiadwy yn Abertawe ac, yn bwysicaf oll, mae'n cefnogi elusen hanfodol sy'n achub bywydau.”

Am ragor o wybodaeth neu i noddi castell, e-bostiwch: [email protected] neu ewch i www.swanseacastles.co.uk