Ym mis Mai, gwisgodd bron i 200 o bobl eu hesgidiau cerdded a helpu i godi £28,257, i helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ei angen arnynt fwyaf. 

Digwyddiad rhithwir yw Cerdded Cymru 100km ym mis Mai (62 o filltiroedd), sy'n golygu cwblhau ychydig mwy na 3km neu ddwy filltir bob dydd. Yr hyn sy'n wych am y digwyddiad yw y gallwch gerdded ar eich cyflymder eich hun, ar hyd y llwybr o'ch dewis a phenderfynu sut y byddwch yn rhannu'r pellter.

Hon oedd y bedwaredd flwyddyn i’r ymgyrch codi arian ac mae wedi codi cyfanswm o fwy na £110,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Diolch i bawb a gymerodd ran, a roddodd arian neu a wnaeth annog rhywun i gynyddu ei filltiroedd.  

Dyma rai o gyfranogwyr Cerdded Cymru a dderbyniodd yr her: 

 

Gemma Lee Robbins

Cymerodd Gemma, 34, o Ben-Y-Cae, Wrecsam, ran yn Her Cerdded Cymru er cof am ei phartner Lee, a fu farw, yn anffodus, yn dilyn damwain ffordd ym mis Mehefin 2022, dim ond wyth wythnos ar ôl y genedigaeth eu merch fach Raya-Mae.

Gwthiodd Gemma ei merch, sydd bellach yn 15 mis oed, yn ei phram a cherdded 164km, gan godi swm anhygoel o £220.

Dywedodd: “Cymeron ni'r her hon i helpu i godi arian hanfodol a all helpu i gadw Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i fynd. Ceisiodd Ambiwlans Awyr Cymru eu gorau glas i achub Lee, ond yn anffodus, bu farw. Byddwn yn ddiolchgar am byth am ymdrechion pawb a geisiodd helpu Lee ar y diwrnod hwnnw.”

Mae Gemma wedi penderfynu parhau i gerdded a chodi arian i'r Elusen gyda'r bwriad i gerdded i gopa'r Wyddfa ddydd Sul 30 Gorffennaf. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig tra'n gwisgo gwisg ffansi gyda theulu a ffrindiau Lee ddydd Sadwrn 12 Awst. Hyd yn hyn mae Gemma wedi codi £400 yn ychwanegol.

 

Angela Ellis

Mae Angela, sy'n wirfoddolwr, wedi bod yn rhoi o'i hamser rhydd i helpu Ambiwlans Awyr Cymru ers dros wyth mlynedd. Cafodd Angela, 69, sy’n dod o Sir y Fflint, glun newydd ym mis Mawrth 2022.

Roedd eisiau gwneud Her Cerdded Cymru y llynedd ond roedd o'r farn y gallai fod yn ormod iddi ar ôl ei llawdriniaeth ac addawodd y byddai'n ei wneud eleni.  Cadwodd at ei gair a llwyddodd i godi £320 i'r Elusen.

Dywedodd: “Roedd gen i ddiddordeb ym menter Cerdded Cymru y llynedd, ond teimlais ei bod yn rhy fuan i gymryd rhan. Fodd bynnag, eleni roeddwn yn fwy na pharod i ymuno gyda'm labrador, Millie, a Bella, ci'r teulu, i godi arian hanfodol i'r elusen gwerth chweil hon. Codais gyfanswm o £320 ac roeddwn yn falch iawn o dderbyn fy medal ar gyfer 2023.”

Kelly Knight

Os ydych chi'n byw yn Llanelli neu'r cyffiniau, efallai eich bod wedi gweld Kelly allan yn gwisgo ei wisg Imperial Trooper. Mae Kelly wedi cerdded mewn gwisg ar hyd y llwybr arfordirol o Lanelli i Borth Tywyn, Dyffryn y Swisdir, Parc Dŵr y Sandy a glan môr y Mwmbwls i enwi ond rhai, tra hefyd yn casglu rhoddion gan bobl ar hyd y ffordd. 

Ymunodd ei fab ag ef ar rai achlysuron a oedd hefyd wedi gwisgo i fyny. Llwyddodd Kelly i gerdded 64.6 milltir a chododd ychydig dros £577.

Dywedodd Kelly: “Cymerais yr her hon gan mod i'n credu y dylem bob amser geisio helpu eraill, yn enwedig achosion gwerth chweil. Rwy’n godwr arian tymor hir mewn gwisgoedd ac yn mwynhau helpu.”

 

Kate Griffiths

I Kate, o Fro Morgannwg, fe wnaeth Her Cerdded Cymru ei hannog i gymryd amser iddi hi ei hun.

Llwyddodd i ffitio ei theithiau cerdded o gwmpas ei gwaith a chwblhaodd yr her ar Gopa'r Wyddfa, ar ôl cerdded 9.4 milltir. Fe wnaeth Kate gofnodi 75.29 milltir gerdded (121km) a cherdded cyfanswm gwych o 330,000 o gamau drwy gydol mis Mai.

Dywedodd: “Rwy wrth fy modd yn cerdded. Dyna dwi'n ei wneud i ymlacio. Fe anogodd yr her i mi gymryd mwy o amser i mi hun ac roeddwn i wir eisiau helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd wedi helpu cymaint o bobl.” Cododd Kate £325 i'r Elusen.

 

Sandra Clifford

Cymerodd, Sandra Clifford, sy'n fam-gu, Her Cerdded Cymru a llwyddodd, nid yn unig i ragori ar y targed o 100km ond cododd £145 hefyd. Yn ogystal â cherdded o amgylch ei hardal leol, rhannodd luniau hyfryd o’i theithiau cerdded ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn cynnwys camlas Aberhonddu a Mynwy.

Dywedodd Sandra, o Benpedairheol yng Nghwm Rhymni: “Fe wnes i fwynhau Cerdded Cymru oherwydd rhoddodd reswm i mi wneud ymarfer corff bob dydd tra’n codi arian at achos gwych. Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gan nad ydych fyth yn gwybod a fydd angen y gwasanaeth arnoch.  Diolch i’r rhai a gyfrannodd ac a helpodd fi i godi £145 at yr achos.”