Mae tri chefnder caredig o Lanfair ym Muallt wedi codi £700 i Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes UK drwy bobi eu cacennau eu hunain a'u gwerthu i'r gymuned.

Penderfynodd Ellen Nicholls, 12 oed, Henry Davies, 10 oed, ac Amelia Davies, 9 oed, werthu cacennau yn ystod gwyliau'r Pasg, yn dilyn llwyddiant eu stondin gacennau flaenorol llynedd, lle gwnaethon nhw godi £709 i bobl Wcráin. 

Roedd y plant ysgol eisiau codi arian i'r Elusen Cymru gyfan ar ôl bod yn bresennol yng Ngŵyl Adloniant Cymru. Cafodd Ellen, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cantal, a'i chefnder Henry, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pont-faen, eu hysbrydoli gan gyhoeddiad am fwriad Hefin Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru, i gymryd rhan yn Her Tri Chopa Cymru ar 12 Awst i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwnaeth Henry, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanelwedd, addo ymuno â'r ddringfa a threchu'r copa olaf, Pen y Fan, a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes UK.

Roedd y cefndryd yn teimlo y byddai pobi cacennau yn ffordd wych o godi arian, gan greu posteri i hyrwyddo eu stondin gacennau.

Aethon nhw ati i bobi amrywiaeth o ddanteithion, gan gynnwys biscoff, siocled oren, a myffins lemon, rocky road, nythod Pasg, gwahanol fathau o gacen dun a chacen siocled.

Cafodd y tri help gan eu brodyr iau Harry Nicholls, saith oed, George Davies, chwech oed, a'r cefnder Ieuan Edwards, pedair oed. 

Dywedodd Raiff Devlin, Is-gadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Rhanbarthol Pont-faen, a fynychodd y digwyddiad gwerthu cacennau: “Mae'n wych gweld aelodau iau o Glwb Ffermwyr Ifanc yn rhoi o'u hamser i gefnogi dwy elusen arbennig iawn.

“Diolch am y cacennau blasus a llongyfarchiadau i chi gyd am godi cymaint o arian. Daliwch ati!”

Hoffai'r cefndryd ddiolch i bawb am eu cefnogi, yn enwedig; Richard Vellacott, Hyrwyddwr Cymunedol Tesco yn Llandrindod, Stuart Williams o Siop Co-op Heol Aberhonddu, Castell Howell yn Cross Hands a Sunny Side Eggs Powys, am fod mor hael â rhoi cynhwysion ar gyfer eu cacennau.

Dywedodd Henry: 'Rydyn ni'n mwynhau cynllunio digwyddiadau codi arian ac roedden wrth ein bodd i godi £700 i Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes UK.

“Rwy'n gobeithio codi mwy o arian i Ambiwlans Awyr Cymru drwy nawdd pan fydda i'n dringo Pen y Fan ar 12 Awst.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.


Dywedodd Jane Griffiths, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Da iawn i'r plant am godi cymaint o arian i Ambiwlans Awyr Cymru drwy werthu cacennau a wnaethon nhw eu hunain. Mae'n ffordd mor hyfryd ac ystyriol o helpu ein Helusen ac rwy'n siwr bod y cacennau yn flasus. Rydych i gyd yn bobyddion talentog a bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i helpu hyd yn oed mwy o bobl. 

“Hoffwn ddymuno pob lwc i Henry hefyd. Nid tasg hawdd yw dringo Pen-y-fan ac rydym yn ddiolchgar iawn eich bod wedi penderfynu ein cefnogi wrth ymgymryd â'r her hon.  Diolch yn fawr!”