28/07/2023

Yn ddiweddar, canmolwyd y defnydd arloesol o ddulliau awtomeiddio o fewn Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan y gymuned technoleg ddigidol.

Mae’r fenter ddigidol, sydd wedi'i dylunio a’i chyflwyno mewn partneriaeth ag Arvato CRM Solutions, yn ymwneud ag awtomeiddio ‘Loteri Achub Bywyd’ fewnol yr Elusen.

Cafodd y prosiect gymeradwyaeth uchel yn ystod y Gwobrau Arweinwyr Technoleg Ddigidol yn Llundain yn gynharach yn ystod y mis (Gorffennaf 2023). Roedd y seremoni yn dathlu doniau a chyflawniadau sefydliadau, timau, ac unigolion sy'n rhagori neu'n dangos arloesedd amlwg ym maes technoleg ddigidol.

Mae'r prosiect wedi cyfuno arbenigedd Arvato mewn prosesau cyllid â thechnoleg awtomeiddio prosesau robotig (RPA) i greu gweithwyr digidol sy'n dynwared sut y byddai gweithwyr dynol yn rhyngweithio â system loteri'r Elusen.  

Dywedodd Mandy Dunell, Rheolwr Gweinyddol Loteri'r Elusen: “Yn hanesyddol, bu'n rhaid i mi ddiweddaru a rheoli dwy system wahanol â llaw. Roedd hon yn broses lafurus dros ben a fyddai'n fy nhynnu oddi wrth y gwaith pwysig o ymgysylltu’n bersonol â chefnogwyr yr Elusen. 

“Mae'r dechnoleg bellach yn mewnbynnu ac yn diweddaru data'r chwaraewyr yn systemau'r loteri a debyd uniongyrchol yn awtomatig, ac yna'n cynhyrchu llythyrau cofrestru a ffurflenni debyd uniongyrchol ac yn eu hanfon dros e-bost. Mae hefyd yn cynhyrchu adroddiadau BACS bob dydd, yn helpu i gadw cofnodion taliadau'r Elusen, yn rhedeg y loteri ac yn cynhyrchu llythyrau at yr enillwyr.”   

Hyd yma, mae'r system awtomataidd newydd wedi haneru faint o amser mae cyflogeion Ambiwlans Awyr Cymru yn ei dreulio ar adroddiadau BACS dyddiol, ac wedi lleihau'r amser a dreulir yn ychwanegu aelodau newydd i system y loteri hyd at 92%. Drwy anfon llythyrau aelodau newydd dros e-bost yn hytrach na thrwy'r post, mae'r system yn fwy ystyriol o'r amgylchedd a bydd yn arbed miloedd o bunnoedd i'r Elusen bob blwyddyn. 

Dyma'r prosiect cyntaf o dan raglen trawsnewid ddigidol arloesol a fydd yn helpu'r Elusen i godi arian yn fwy effeithiol, i feithrin sgiliau digidol cyflogeion a gwirfoddolwyr ac i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd.  

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r trydydd sector yn aml yn cael ei ystyried yn israddol ar sawl lefel wahanol, o'i gymharu â'r sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae ein strategaeth newydd fel Elusen yn herio'r canfyddiad hwn, ac mae'r prosiect i awtomeiddio'r loteri yn un enghraifft o'r ffordd rydym yn defnyddio technolegau blaengar i gefnogi ein gwaith sy'n achub bywydau.

”Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein systemau a'n prosesau mor effeithlon â phosibl fel bod pob punt rydym yn ei derbyn gan y gymuned yn cael yr effaith fwyaf posibl. Yn syml, po fwyaf o amser ac arian y gallwn eu harbed yn rhedeg yr Elusen, po fwyaf y gallwn ei neilltuo i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

“Rydym yn arloesol yn y gwasanaeth meddygol a ddarparwn, ac rydym yn awyddus i'r fenter hon ymwreiddio ym mhob rhan o'r Elusen ac ym mhopeth rydym yn ei wneud.  

”Yn ogystal â chefnogi ein gwasanaeth sy'n achub bywydau, mae hefyd yn fuddsoddiad yn ein cyflogeion a'n gwirfoddolwyr. Mae Arvato yn mynd i'r afael â thrawsnewid ein prosesau fel partner go iawn, gan weithio'n agos gyda'n tîm i'n helpu i nodi lle gallwn ddatgloi'r buddiannau mwyaf cyn gynted â phosibl, ac i hyfforddi ein tîm fel bod gennym y wybodaeth i gynnal y technolegau hyn ein hunain.”  

Dywedodd Debra Maxwell, Prif Swyddog Gweithredol Arvato CRM Solutions: ”Mae rheidrwydd ar Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, ynghyd â llawer o sefydliadau trydydd sector eraill, i wneud cymaint â phosibl gyda'i hadnoddau prin. Drwy ei strategaeth trawsnewid ddigidol uchelgeisiol, mae’n arwain y ffordd o ran arddangos sut y gall y sector nid er elw, a gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd yn gyffredinol, ddefnyddio technoleg i gyflawni hyn. 

Mae'r Elusen wrthi'n ymchwilio i gyfleoedd pellach i ddefnyddio technolegau newydd – megis awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial – ym mhob rhan o'r sefydliad er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynnig mwy o gyfleoedd dysgu a datblygu i'w chyflogeion.