Mae Clwb Ceir Clasurol yng Ngogledd Cymru wedi codi mwy na £9,000 ar gyfer elusen yng Nghymru yn dilyn sioe geir yn ddiweddar.

Cododd clwb ceir Clwyd Practical Classics y swm aruthrol o £9,075 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl sioe lwyddiannus arall. 

Cynhaliwyd yr aduniad blynyddol o berchnogion ceir sy'n ymarferol ond hefyd yn glasurol ledled Gogledd Cymru dros yr haf, ac roedd 2,000 o bobl yn bresennol.

Mae Christine Webb, un o aelodau gwreiddiol y clwb, yn esbonio sut dechreuodd y grŵp: "Gwnaethom ddechrau'r clwb yn 1986 fel clwb bach ar gyfer perchnogion ceir clasurol. Bedair blynedd yn ddiweddarach yn 1990 gwnaethom gynnal ein sioe gyntaf un a gododd £100 ar gyfer nifer o elusennau. Ers hynny rydym wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnal sioeau bob blwyddyn.

"Yn 1997 gwnaethom symud i le mwy ym Maes Carafannau Barlows, Caerwys, ac rydym wedi cynnal y sioe yno ers hynny. Bob blwyddyn, mae aelodau ein pwyllgor yn pleidleisio dros yr elusen a fydd yn cael yr arian rydym yn ei godi. Rydym wedi penderfynu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac nid yw 2019 yn eithriad."

Mae'r grŵp, sydd wedi rhoi arian i Ambiwlans Awyr Cymru sawl gwaith yn y gorffennol, wedi codi cyfanswm o £26,624 ar gyfer yr elusen hofrenyddion.

Ychwanegodd Christine: "Roedd digwyddiad eleni'n llwyddiant ysgubol gyda mwy na 600 o geir yn cael eu harddangos a bron dwy fil o bobl yn bresennol. Mae'r digwyddiad hwn yn bosibl diolch i gymorth ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bob popeth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw, a bod y digwyddiad yn mynd rhagddo yn ddidrafferth.

"Rydym yn falch o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn ogystal â nifer o elusennau eraill, ac rydym wedi codi £92,866.56 at achosion da ers ein sioe swyddogol gyntaf yn 1990. Rydym yn llwyr werthfawrogi pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i'r wlad gyfan ac mae'n bleser gennym gefnogi eu gwaith pwysig."

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Clwyd Practical Classics am eu cefnogaeth barhaus. Mae'r ffaith eu bod wedi codi cymaint o arian i ni, ac i elusennau eraill hefyd, yn glodwiw iawn.

"Bob blwyddyn rydym yn dibynnu'n llwyr ar y cyhoedd yng Nghymru i godi mwy na £6.5 miliwn er mwyn sicrhau y gallwn gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr. Bydd y swm a godwyd gan y grŵp yn sicrhau y gallwn barhau i hedfan er mwyn achub bywydau ledled Cymru."

Ychwanegodd Christine: "Eleni, i goroni'r cyfan, cawsom y cyfle i ymweld â'r gwasanaeth awyr yng Nghaernarfon a gweld drosom ein hunain sut bydd ein rhodd yn helpu. Cawsom y cyfle i gwrdd ag aelodau o'r criw a estynnodd groeso mawr i ni ac a roddodd gipolwg diddorol i ni ar eu gwaith.

"Rydym yn edrych ymlaen yn barod at sioe'r flwyddyn nesaf, a gynhelir ar 12 Gorffennaf 2020 ar ein pen-blwydd yn 30 oed."