Cyhoeddwyd: 10 Ionawr 2024

Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, beth am ddod o hyd i'ch esgidiau rhedeg a dechrau 2024 drwy gymryd rhan yn her Fy Milltiroedd Hedfan Ambiwlans Awyr Cymru.

Os yw cadw'n heini wrth godi arian hanfodol ar gyfer elusen sy'n achub bywydau yn swnio'n dda i chi, gall yr her rithwir hon fod yn berffaith i chi!

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi lansio ei hymgyrch codi arian rithwir 'Fy Milltiroedd Hedfan', sy'n cynnig cyfle i bobl redeg, loncian neu gerdded 25, 50 neu 100 milltir drwy gydol mis Ionawr.

Mae'r ymgyrch codi arian yn rhoi'r cyfle i chi gymryd rhan unrhyw le, unrhyw bryd. Os ydych yn teimlo bod angen i chi golli pwysau, neu eich bod am gymell eich hun i fod yn fwy iach y flwyddyn newydd hon, gall yr her hon fod yn gam yn y cyfeiriad cywir.

Gallwch gofrestru am ddim i gymryd rhan yn 'Fy Milltiroedd Hedfan', fodd bynnag, os byddwch yn codi £100 i Ambiwlans Awyr Cymru, cewch fedal 'Fy Milltiroedd Hedfan'.

Nid oes angen i chi ymgymryd â'r her ar eich pen eich hun. Gallwch ymuno â'ch teulu a ffrindiau i gyflawni eich milltiroedd. Gall ysgolion a thimau gofrestru hefyd, a bydd unrhyw ysgol sy'n cymryd rhan yn cael masgot, Del y Ddraig, i'ch helpu i gyflawni eich milltiroedd.

Dywedodd Tracey Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Fy Milltiroedd Hedfan yn ffordd wych o ddechrau'r flwyddyn newydd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, bydd pobl yn gwneud addunedau ar gyfer y flwyddyn newydd, felly beth am osod her i'ch hun i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru? Gallwch ddewis nifer y milltiroedd, a ph'un a ydych am redeg, cerdded, loncian neu gyfuniad o'r rhain. Mae angen i elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n achub bywydau godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion sy'n achub bywydau yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Drwy gymryd rhan gallwch ein helpu i barhau i achub bywydau ledled Cymru." 

Os hoffech gymryd rhan fel grŵp, anfonwch e-bost at dîm digwyddiadau'r Elusen ar [email protected] a nodwch nifer yr unigolion sy'n bwriadu cymryd rhan. 

Os hoffech ein helpu i barhau i achub bywydau ledled ein gwlad eleni, gallwch gofrestru ar gyfer yr her drwy grŵp Facebook Fy Milltiroedd Hedfan 2024 www.facebook.com/groups/897486635051301 a llenwi ffurflen gofrestru.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.