Mae Tom Nicholas wedi gosod her enfawr i'w hun i gwblhau pedwar gweithgaredd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei dad-cu, Godfrey Dobbins.

Byddai llawer o bobl yn osgoi dim ond un o'r gweithgareddau y mae Tom wedi'u cynllunio, heb sôn am y pedwar ohonynt.

Mae Tom, a dreuliodd llawer o amser yn ystod gwyliau haf gyda'i fam-gu a'i dad-cu yn Sir Benfro, wedi bod yn cynllunio Endure 4 ers sawl blwyddyn. Fel rhan o'r her, ei nod yw dringo Kilimanjaro, yn ogystal â chwblhau ras rhwystrau 30 milltir Spartan Ultra yn yr Alban, her y World's Toughest Mudder, ac yn goron ar y cyfan, Ironman Cymru yn 2022.

Roedd Tom, sy'n 27 oed o Fryste, yn awyddus i helpu'r elusen sy'n achub bywydau ar ôl iddi achub bywyd ei dad-cu. Dywedodd: “Llwyddais i godi dros £2,000 yn fy nghyfres ddiwethaf o heriau yn 2018. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn i mi, ar ôl i'r gwasanaeth achub bywyd fy niweddar dad-cu ddwywaith. Am ei fod yn byw mewn ardal wledig yn Sir Benfro, yr ambiwlans awyr oedd yr unig opsiwn i sicrhau ei fod yn cael y gofal meddygol brys yr oedd ei angen arno. Diolch i'r gwasanaeth, bu modd i ni dreulio ychydig yn fwy o flynyddoedd yn ei gwmni.

“Roeddwn am ymgymryd â her codi arian arall, ond roeddwn am gwblhau'r gweithgareddau mwyaf y gallwn feddwl amdanynt a fyddai'n profi fy nghadernid meddyliol a'm gwydnwch corfforol, gan wneud hynny er budd Ambiwlans Awyr Cymru ac er cof am fy niweddar dad-cu. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth gwych ac rwy'n teimlo'n gryf iawn dros godi arian iddo.”

Nid yw Tom, sy'n gweithio fel ymgynghorydd i gwmni cyllid, wedi gosod targed codi arian i'w hyn, ond hoffai godi mwy na'r £2,000 y llwyddodd i'w godi'n flaenorol. Dywedodd: “Hoffwn ragori ar y cyfanswm hwnnw, ond bydd unrhyw beth rwy'n ei godi yn meddwl y byd, yn enwedig o gofio'r oes sydd ohoni lle nad oes gan bobl lawer i'w roi ar hyn o bryd.”

Mae Tom yn gobeithio dechrau'r her ym mis Gorffennaf drwy ddringo Kilimanjaro, os bydd y rheolau o ran teithio rhyngwladol yn caniatáu hynny.

Yna, ym mis Medi, bydd yn cymryd rhan yn ras Spartan Ultra, sef ras rhwystrau 30 milltir. Dywedodd: “Rydw i wedi rhoi cynnig ar yr her Ultra o'r blaen, ond mae'n rhaid i chi gwblhau pob cam o'r cwrs o fewn cyfnod penodol o amser, felly yn ogystal â goresgyn y dasg o redeg i fyny llwybrau serth, y bariau mwnci, cario bwced o dywod sy'n pwyso 60kg dros bellter o  1km, mae'n ras yn erbyn y cloc hefyd.”

Ei drydydd gweithgaredd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol fydd her y World's Toughest Mudder, sef ras rhwystrau 5 milltir, sy'n cynnwys rhwystrau arferol y Tough Mudder, sef dringo drwy sgip llawn iâ, rhedeg drwy wifrau trydan, mwy o fariau mwnci a dringo ysgol wrth i ddŵr rhewllyd gael ei dywallt drosoch. “Y nod yw cwblhau cynifer o'r lapiau 5 milltr o fewn cyfnod o 24 awr. Bydd y digwyddiad hwn yn cael i gynnal ar gyrion Las Vegas dros y dŵr”, meddai Tom.

Mae Tom yn gobeithio dod â'i her codi arian enfawr i ben yn Sir Benfro, os bydd yn llwyddo i gael lle yn Ironman Cymru, a fydd yn cynnwys nofio 2.4 milltir, beicio 112 o filltiroedd a gorffen drwy redeg 26.2 o filltiroedd.

Gallwch gefnogi Tom drwy gyfrannu at ei her codi arian drwy ei dudalen Just Giving, sef 'Thomas's Endure 4 page' www.justgiving.com/fundraising/thomas-nicholas3