Bydd Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl yn dychwelyd i'r môr eleni ar ôl i’r digwyddiad gael ei gynnal yn rhithiol y llynedd.

Bydd her eleni yn nodi 57 mlynedd ers yr her nofio gyntaf, a'r thema fydd ‘Paint the Town Red’, er mwyn dathlu dychweliad y digwyddiad traddodiadol. Bydd hefyd yn dathlu ugain mlynedd ers sefydlu prif elusen eleni -  Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ogystal â chodi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau, bydd yr Her Nofio Bore Nadolig ar Sandy Beach yn codi arian ar gyfer achosion a sefydliadau amrywiol lleol.

Dywedodd Lucy Jones, Ysgrifennydd Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl: “Rydym yn hynod falch o gadarnhau y bydd Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl yn dychwelyd eleni ar ôl i ni gynnal y digwyddiad yn rhithiol y llynedd.

“Er ein bod yn disgwyl i niferoedd mawr fynychu, rydym yn hyderus y bydd y digwyddiad yn ddiogel o ran Covid, a bydd rhagofalon ychwanegol yn cael eu cymryd. Rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio maes parcio Salt Lake a maes parcio HiTide, ac iddynt newid gartref neu yn eu ceir os yn bosibl. Dylai pawb hefyd gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau os ydynt yn mynd mewn i adeilad.

“Gofynnwn i bawb roi yn hael i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a'r elusennau lleol amrywiol eraill Gallwch ddarllen mwy am sut mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth ar ein tudalen Facebook – Porthcawl Christmas Morning Swim.”

Mae cofrestru ar gyfer Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl yn cychwyn am 10:30am a bydd y nofwyr yn mynd i mewn i'r dŵr am 11:45am. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.Christmasswim.org

Os hoffech chi gefnogi'r ymgyrch codi arian, gallwch roi arian i'r achosion da ar-lein drwy'r dudalen GoFundMe - Porthcawl Christmas Morning Swim 2021. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu i elusennau a sefydliadau amrywiol lleol gan Bwyllgor Nofio y Nadolig.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn  Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.  

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.   

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel y brif elusen ar gyfer her nofio bore Nadolig eleni, yn enwedig o gofio ein bod yn dathlu 20 mlynedd ers sefydlu'r elusen. Mae'n wych clywed bod y digwyddiad blynyddol yn dychwelyd i Sandy Beach.

“Hoffwn ddiolch i Her Nofio Bore Nadolig Porthcawl am y rôl mae'n ei chwarae i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac achub bywydau yng Nghymru. Bydd yr holl roddion yn helpu'r elusen i barhau i ddarparu ar gyfer pobl yng Nghymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.