Mae trefnwyr Rali Bryniau Gororau Cymru 2022 wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu helusen i gael budd o roddion dros dri diwrnod y digwyddiad.

Bydd y rali yn digwydd rhwng 27 a 29 Mai a bydd yn ddigwyddiad cyffrous i'r cystadleuwyr a'r gwylwyr.

Bydd tua 400-450 o bobl yn ymweld â'r Trallwng ar gyfer y rali y mae llawer o bobl wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr ato, gan gynnwys timau gwahanol a swyddogion. Bydd y 60 o dimau yn cynnwys gyrrwr, cyfeiriwr a'u criw gwasanaethu.

Mae Neil Rogers, o Rali Bryniau Gororau Cymru 2022 yn edrych ymlaen at y digwyddiad, a dywedodd: “Y rheswm roeddwn i am gynnal y digwyddiad oedd oherwydd fy mod yn byw yn yr ardal a gobeithio y bydd o fudd i'r gymuned a'r economi leol pan fydd timau a swyddogion yn trefnu llety, yn bwyta allan ac yn gwario arian yn lleol yn gyffredinol.

“Rydym hefyd wedi ceisio defnyddio cyflenwadau a gwasanaethau lleol ar gyfer y digwyddiad felly yn gyffredinol rydym yn amcangyfrif y bydd y digwyddiad yn dod â thua £100K i fusnesau lleol. Mae hefyd yn rhywbeth sy'n newydd i'r ardal felly bydd yn creu diddordeb a gobeithio y caiff ei ystyried yn rhywbeth cadarnhaol.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n achub bywydau wedi cael ei dewis fel yr unig elusen ar gyfer y digwyddiad tri diwrnod. Bydd y rhaglen, sydd wedi cael ei hariannu drwy hysbysebion gan fusnesau lleol ac asiantaethau eraill, am ddim i gystadleuwyr a gwylwyr. Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd pobl yn rhoi rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer y rhaglen.

Bydd gan Ambiwlans Awyr Cymru ei stondin ei hun yn ystod y digwyddiad a bydd y rhaglenni ar gael o'r stondin. Hefyd, bydd bwcedi casglu arian er mwyn i bobl roi arian os hoffent wneud hynny.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Ychwanegodd Neil: “Gan fod y rhaglen wedi cwmpasu'r costau argraffu, gwnaethom benderfynu peidio â chodi tâl ar bobl am y rhaglen ond teimlwyd y gellid annog pobl i roi rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru pe bai pobl yn cael rhaglen o stondin yr elusen. Gan ei fod yn wasanaeth y mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ei ddefnyddio rhywbryd, ond ein bod yn gobeithio na fydd byth angen i ni wneud hynny, y dewis perffaith oedd rhoi'r arian i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Bydd y digwyddiad yn dechrau ar y dydd Gwener lle y bydd prosesau archwilio yn digwydd ym maes parcio Berriew Street/Cowshac rhwng tua 10am a 2pm. Yna, bydd pawb ym Marchnad Da Byw Y Trallwng yn Y Drenewydd am weddill y dydd.

Ddydd Sadwrn, bydd y gwasanaeth ym Mhencadlys Britpart (cyn-safle Laura Ashley), yn Y Drenewydd a bydd yr holl geir yn dychwelyd i'r Farchnad Da Byw yn hwyrach yn y nos.

Ddydd Sul bydd y gwasanaeth yn y Farchnad Da Byw drwy'r dydd nes i'r digwyddiad ddod i ben yn y prynhawn.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein boddau o gael ein dewis fel yr unig elusen i gael budd o'r digwyddiad tri diwrnod cyffrous hwn.  Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'r digwyddiad yn ei roi i'n helusen achub bywydau yn fawr. Bydd unrhyw roddion a gawn yn ystod Rali Bryniau Gororau Cymru 2022 yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf ac yn galluogi ein pedwar hofrennydd i barhau i hedfan a sicrhau bod ein cerbydau ymateb cyflym ar gael 24/7.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall,gellir tecstio'r gairHELI  i 70711i roi £5