Mae gweithwyr Bws Caerdydd wedi llwyddo i godi £4,150 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Ymroddodd y cwmni bws flwyddyn o gefnogaeth i'r Elusen sy'n achub bywydau gan gynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian a oedd yn cynnwys diwrnodau gwisgo'n hamddenol, rafflau, tybiau casglu ar y safle, a diwrnod agored yn y depo.

Bydd y rhodd hael gan Bws Caerdydd yn helpu i roi gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru, pryd bynnag neu ble bynnag y bydd ei angen arnynt.

Dywedodd Jen Doody, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Bws Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o ymdrechion ein tîm dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn codi arian hanfodol i elusen mor haeddiannol.

“Mae'r gwaith a wneir gan Ambiwlans Awyr Cymru yn anhygoel, ac rydym i gyd yn gwybod am rywun sydd wedi elwa o'i gwaith sy'n achub bywydau, felly roedd yn teimlo'n briodol i'w dewis fel ein Helusen y Flwyddyn.

 “Hoffem ddiolch i'n staff am eu holl waith caled yn codi arian, ac i bawb a roddodd arian. Hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru am eu gwasanaeth i bobl Cymru.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi mwy na £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i Bws Caerdydd am ddewis ein helusen sy'n achub bywydau fel ei Elusen y Flwyddyn ac am godi dros £4,000 drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn. 

“Bydd eich rhodd anhygoel yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, boed hynny yn yr awyr neu ar y ffordd. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.”