Mae brawd a chwaer garedig o Ddoc Penfro yn bwriadu cerdded 20 milltir ym mis Mawrth i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Harley, sy'n saith oed, a'i chwaer Maisie McNally, sy'n 5 oed, yn gobeithio codi £50 yr un ar gyfer yr elusen fel rhan o ddigwyddiad codi arian arbennig i nodi 20 mlynedd ers sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed eleni ac, i gydnabod y garreg filltir, mae'r elusen wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Mae'r digwyddiad yn galluogi cyfranogwyr i ddewis eu heriau, tasgau neu weithgareddau eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y gallant eu cwblhau yn ystod mis Mawrth.

Mae Harley yn gyfarwydd â chodi arian ar gyfer yr Elusen. Mae wedi codi dros £300 yn flaenorol drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Nofio Dydd Calan Saundersfoot y llynedd. Fodd bynnag, dyma fydd digwyddiad codi arian cyntaf Maisie. Mae'r plant eisoes wedi codi £80.

Dywedodd eu mam falch iawn, Jessica, y bydd yr her o fudd i'r plant, yn ogystal â'r Elusen. Dywedodd: “Ers y cyfyngiadau symud, oherwydd gwaith ysgol a'r tywydd gwael, nid yw Harley a Maisie braidd wedi gadel y tŷ. Felly byddant yn gwneud her Fy20 drwy gerdded 20 milltir yn ystod mis Mawrth, a fydd o fudd iddyn nhw ac Ambiwlans Awyr Cymru.

“Mae Harley a Maisie yn deall yn iawn pam mae Ambiwlans Awyr Cymru yn angenrheidiol i bawb ac maent hefyd yn adnabod pobl yr oedd angen y gwasanaeth arnynt. Dyma pam maent wedi penderfynu codi arian ar gyfer yr elusen, gan wybod bod ei gwasanaethau wedi helpu pobl sâl!

“Rwy'n falch iawn ohonynt. Ar oedran eithaf ifanc maent yn gwybod cymaint am y gwasanaeth ac maent hefyd am helpu.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol De-orllewin Cymru yr Elusen: “Mae bob amser yn hyfryd clywed straeon am blant mor ifanc yn codi arian. Dim ond saith oed yw Harley a dyma ei ail ddigwyddiad codi arian ar gyfer yr Elusen, sy'n anhygoel. Mae cerdded 20 milltir yn gryn dipyn o waith i unrhyw un, heb sôn am wneud hynny pan rydych mor ifanc â Harley a Maisie. Mae Fy20 yn ddigwyddiad codi arian perffaith i bobl o bob oed, ac rwy'n gobeithio bydd y plant yn mwynhau eu her.

“Rydym yn diolch i bawb sydd wedi rhoi arian i'r digwyddiad codi arian ac rydym yn  diolch  yn fawr iawn i'r ddwy seren codi arian, Harley a Maisie. Pob lwc.” 

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r Disgyblion o Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Harley a Maisie, drwy roi arian i'w digwyddiad codi arian Fy20 drwy eu tudalen Just Giving ‘Harley & Maisie’s My20’.