Wrth i'r flwyddyn ddod i ben, mae'n naturiol i ni ddechrau meddwl am yr hyn yr hoffem ei gyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod.

I lawer ohonom, mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn mynd law yn llaw â gwneud addewidion (a'u torri yn amlach na pheidio) ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Y tro hwn, beth pe baech yn gosod her fwy realistig, iach a llawn hwyl i chi'ch hun, a allai helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd?  

Yn ogystal â chael ymdeimlad o hunangyflawniad a chael eich grymuso, byddwch hefyd yn helpu'r Elusen i barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru nifer o ddigwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn ystod 2024. I ddechrau'r Flwyddyn Newydd, cynhelir y Milltiroedd Hedfan, sy'n ddigwyddiad blynyddol ar gyfer cerdded, loncian neu redeg yn rhithwir lle rydych yn cwblhau 25, 50 neu 100 o filltiroedd yn ystod y mis.

Mae'n gam perffaith os ydych am fynd ymlaen i gymryd rhan mewn un o nifer o ddigwyddiadau rhedeg a gaiff eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, lle gallwch gofrestru ar gyfer lle elusennol am ddim drwy godi arian i'r Elusen. Mae rhai o'r digwyddiadau hyn yn cynnwys Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Caer a'r Ironman. Cynigir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly bydd angen i chi gofrestru'n gyflym. 

Mae nifer o heriau nad ydynt yn cynnwys rhedeg y gallwch gofrestru ar eu cyfer hefyd. Eleni, mae cynlluniau ar waith i gynnal her feicio yn ogystal â digwyddiad blynyddol yr Elusen, sef Cerdded Cymru.

Ar gyfer y rhai ohonoch sy'n hoff o fwyd, beth am gymryd rhan yn nigwyddiad Coffi a Chacen cyntaf yr Elusen ym mis Mawrth? Heb anghofio digwyddiad llwybr Castles in the Sky a fydd yn cael ei gynnal rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, a fydd yn cynnwys gosod mwy nag 20 o gestyll o amgylch canol dinas Abertawe a'r ardaloedd cyfagos. Felly, gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch am dro i weld a allwch ddod o hyd i bob un ohonynt.  

Mae digwyddiadau eraill ar y gweill, felly cadwch lygad ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru ac ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Os nad ydych yn siŵr o hyd am y digwyddiadau y cyfeirir atynt uchod, gallwch helpu i gefnogi'r Elusen Cymru gyfan drwy gynnal eich digwyddiadau eich hunain neu gymryd rhan yn eich heriau eich hunain. Hoffai'r Elusen glywed am eich heriau a helpu i'w hyrwyddo o bosibl, hyd yn oed. 

Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. 

Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi. 

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaeth Ambiwlans Awyr Cymru: “Beth am osod addewid i chi'ch hun ar gyfer y Flwyddyn Newydd a herio eich hun i gymryd rhan yn un o'r digwyddiadau sydd ar gael i ni drwy ein partneriaid elusennol neu ein digwyddiadau a drefnir gennym.

“Mae bob amser yn dda cael nod i anelu ato a hyd yn oed os nad ydych yn rhedwr, mae digon o amser i gynyddu eich pellter a'ch amser os byddwch yn dechrau'n fuan. Mae ein digwyddiad Milltiroedd Hedfan rhithwir yn ffordd wych o ddechrau arni eto ar ôl y Nadolig ac o waredu'r felan yn ystod mis Ionawr.

“Os nad ydy rhedeg yn apelio, gallwch gymryd rhan o hyd mewn un o'n digwyddiadau eraill, gan gynnwys ein digwyddiad torfol newydd, Coffi a Chacen, ym mis Mawrth, neu gallwch drefnu eich digwyddiad eich hun lle gall yr Elusen helpu i gynnig cymorth a chyhoeddusrwydd.  

“Nid yn unig y byddwch yn cyflawni her bersonol ond byddwch hefyd yn helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd. Drwy eich gwaith codi arian, byddwch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru bob awr o'r dydd a'r nos. Am ffordd wych o ddechrau'r flwyddyn 2024 drwy gefnogi ein Helusen a chyflawni her bersonol.” 

Milltiroedd Hedfan 

Ble: Digwyddiad rhithwir ledled Cymru

Pryd: 1 Ionawr hyd at 31 Ionawr 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Dechreuwch y Flwyddyn Newydd drwy herio eich hunain i redeg, loncian neu gerdded 25, 50 neu 100 o filltiroedd drwy gydol mis Ionawr. Digwyddiad rhithwir yw hwn, a gallwch gymryd rhan o unrhyw le, unrhyw bryd. Gallwch gofrestru am ddim ond os codwch £100 i'r elusen, byddwch yn cael medal Fy Milltiroedd Hedfan. Er mwyn cofrestru am ddim, ymunwch â'r grŵp Facebook a chwblhewch y ffurflen gofrestru.

Hanner Marathon Llanelli 

Ble:  Meysydd Gŵyl, Llanelli

Pryd: 25 Chwefror 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Eleni, bydd y digwyddiad 13.1 milltir yn dechrau ac yn gorffen ym Meysydd Gŵyl Llanelli. Bydd y llwybr yn eich arwain ar dirwedd gwastad ar hyd llwybr  arfordir hardd y Mileniwm y rhan fwyaf o'r amser ac mae'n berffaith i unrhyw un sy'n cymryd rhan yn ei hanner marathon cyntaf, neu redwyr sy'n anelu at gyflawni eu hamser gorau (gydag uchder uchaf o 52 troedfedd!) gan fynd heibio rhai o'r golygfeydd gorau yn Sir Gaerfyrddin.

Targed Codi Arian: £200  


 
Coffi a Chacen 

Ble: Gellir ei gynnal unrhyw le!

Pryd: Mawrth 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Mae gennym ddigwyddiad newydd sbon a chyffrous ar gyfer 2024 a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddod at eich gilydd gyda'ch ffrindiau, eich teulu a'ch cydweithwyr drwy gynnal eich bore coffi a chacen eich hun ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Gallwch gynnal y digwyddiad hwn yn yr ysgol, yn y gweithle, mewn grwpiau cymunedol, siopau coffi, tai eich ffrindiau ac yn y blaen.  Bydd rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn cael ei hychwanegu at y wefan yn fuan iawn. 

10k Caer  

Ble: Caer

Pryd: 10 Mawrth 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Mae gennym leoedd elusennol am ddim ar gael ar gyfer digwyddiad poblogaidd 10k Caer MBNA sydd wedi ennill sawl gwobr, a'r unig ras 10k sy'n cael ei rhedeg yn ninas Caer.

Targed Codi Arian: £150

Darth VIII

Ble: Clwb Rygbi De Gŵyr, Llandeilo Ferwallt, Abertawe 

Pryd: 16 Mawrth 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Taith redeg anturus sydd oddeutu 13 milltir yw'r Darth a gaiff ei gynnal ar arfordir De Gŵyr bob gwanwyn gan Peloton Running. Bydd rhedwyr yn cael eu herio i redeg ar hyd tirwedd fryniog, bryniau serth, llwybrau heriol drwy'r afon a nofio sawl gwaith yn y môr. Thema'r parti ar ôl y digwyddiad eleni yw Eurovision. Er mwyn cofrestru, defnyddiwch y cod DARTHFUNDRAISER wrth dalu. 

Targed Codi Arian: £200 

Marathon a Hanner Marathon Great Welsh 

Ble: Parc Gwledig Pembre, Sir Gaerfyrddin

Pryd: 17 Mawrth 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Cymerwch ran ym marathon hynaf de Cymru. Cwrs cyflym, gwastad ar hyd arfordir godidog Llanelli sy'n dechrau ym Mharc Gwledig Pembre. Mae dau lwybr ar gael, sef marathon 26.2 milltir a hanner marathon 13.1 milltir. Mae'n addas ar gyfer pob gallu. 

Targed Codi Arian: £200 

10k Brisco Gorseinon

Ble: Gorseinon, Abertawe

Pryd: 19 Mai 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Bydd llwybr ras 10k Brisco Gorseinon yn dechrau ger Canolfan Hamdden Penyrheol ac yna yn mynd drwy Stryd Fawr Gorseinon i ymuno â'r llwybr beicio sydd wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar cyn gorffen yn yr un lle. Bydd oddeutu 4,000 o bobl yn cymryd rhan. Yna, bydd y rhedwyr yn anelu at Bontarddulais cyn troi i redeg drwy Bengelli wrth iddynt redeg y cilomedrau olaf yn ôl i Benyrheol.

Targed Codi Arian: £150

Hanner Marathon Caer

Ble: Caer 

Pryd: 19 Mai 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Mae Hanner Marathon Caer yn un o'r hanner marathonau mwyaf hirsefydledig ac uchel ei barch yn y DU, sy'n dechrau ac yn gorffen yn ninas hanesyddol Rufeinig/Canoloesol Caer. 

Targed Codi Arian: £200

Cerdded Cymru 

Ble: Digwyddiad rhithwir y gellir ei gynnal unrhyw le

Pryd: Mehefin 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Bydd ein digwyddiad poblogaidd yn ôl yn 2024. Y peth gwych am her rithwir Cerdded Cymru yw y gallwch gymryd rhan unrhyw le, unrhyw bryd. Mae hefyd yn wych ar gyfer eich llesiant corfforol a meddyliol. 

Hanner Marathon Abertawe 

Ble: Arena Abertawe

Pryd: 9 Mehefin 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Dathlu 10 mlynedd o #RhedegCymru. Mae Hanner Marathon Abertawe, sy'n ras 13.1 milltir, yn dechrau o flaen Arena eiconig Abertawe, cyn mynd drwy ganol y ddinas yn ôl tuag at Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yna allan i Knab Rock yng ngolwg y goleudy. Yna, byddwch yn mwynhau golygfeydd hardd Bae Abertawe cyn dychwelyd i'r ffordd ar Brynmill Lane i'r llinell derfyn wrth Arena Abertawe.

Targed Codi Arian: £200

Reidio Cymru 

Ble: Cymru gyfan 

Pryd: Gorffennaf 

Dywedwch fwy wrthyf: Digwyddiad newydd arall ar gyfer y flwyddyn. Bydd pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y digwyddiad beicio am ddim hwn a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Gorffennaf. Byddwch yn gallu gosod eich her eich hun a'r ffordd rydych am feicio – p'un a yw hynny ar feic modur, sgwter, reidio merlen, beic, neu hyd yn oed y tonnau, mae'r dewis yn ddiddiwedd. Bydd rhagor o fanylion i ddilyn ar ein gwefan.   

Castles in the Sky 

Ble: Canol dinas Abertawe

Pryd: 6 Gorffennaf hyd at 15 Medi 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Mae Castles in the Sky yn ddigwyddiad celf cyhoeddus anhygoel a fydd yn dod ag Abertawe yn fyw o liwiau a sgyrsiau wrth i gerfluniau o Gestyll lenwi'r ddinas. Am 10 wythnos, bydd strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus ledled Abertawe yn gartref i gyfres o gerfluniau o Gestyll, gyda phob un wedi ei ddylunio'n unigol gan artist o Gymru ac yn cael ei noddi gan fusnesau.Mae'r digwyddiad am ddim hwn yn un llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan ac yn gyfle i'r bobl leol ac ymwelwyr grwydro a mwynhau. Bydd ap a map dynodedig o'r llwybr yn eich helpu i symud o amgylch er mwyn dod o hyd i bob cerflun, lle y gallwch ennill cyfres o wobrau a darllen ffeithiau diddorol.

Ironman 70.3 Abertawe

Ble: Abertawe 

Pryd: 14 Gorffennaf 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Profwch yr harddwch naturiol ar hyd glannau Bae Abertawe sy'n arwain at y Mwmbwls, cyn beicio ar hyd Penrhyn Gŵyr gan werthfawrogi ei dirwedd hynod.Bydd y cwrs nofio un ddolen 1.2 milltir (1.9km) yn dechrau wrth Ddoc Tywysog Cymru.Bydd y cwrs beicio un ddolen 56 milltir (90km) yn mynd drwy'r Mwmbwls ar hyd clogwyni arfordirol Gŵyr cyn mynd drwy gefn gwlad Abertawe ac yn ôl ar hyd Bae Abertawe i mewn i'r ddinas.Yn olaf, bydd yr athletwyr yn rhedeg cwrs dwy ddolen 13.1 milltir (21.1km) a fydd yn mynd â nhw o ganol y ddinas, allan heibio i Arena drawiadol ac euraid newydd Abertawe, tuag at y Mwmbwls cyn dychwelyd at y llinell derfyn wrth y Marina. 

Mae'r lleoedd am ddim yn gyfyngedig.

Targed Codi Arian: £800

Reidio Cymru – Mewn person 

Ble: De Cymru 

Pryd: Mis Medi – dyddiad i'w gadarnhau

Dywedwch fwy wrthyf: Mae'r Elusen wrthi'n trefnu i gynnal ei digwyddiad beicio elusennol ei hun mewn lleoliad yn ne Cymru. Bydd y digwyddiad yn un torfol, mewn person, ac yn rhoi cyfle i fwynhau rhai o olygfeydd gorau'r de. Bydd rhagor o fanylion i ddilyn ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru.  

 

Ironman Cymru 

Ble: Dinbych-y-pysgod  

Pryd: 22 Medi 2024

Dywedwch fwy wrthyf: Mae'r ras hon, sy'n denu cefnogwyr o bedwar ban byd, yn un arwrol. Daw Ironman Cymru â thref glan môr ddeniadol Dinbych-y-Pysgod yn fyw wrth i'r athletwyr nofio 2.4 milltir ar Draeth y Gogledd gyda'r wawr, beicio 110 milltir ar hyd arfordir hardd Sir Benfro, a rhedeg 26.2 milltir drwy ganol y dref ganoloesol i gefnogaeth torf frwd. Lleoedd cyfyngedig

Targed Codi Arian: £1,500 

Hanner Marathon Caerdydd 

Ble: Canol Dinas Caerdydd

Pryd: 6 Hydref

Dywedwch fwy wrthyf: Hanner Marathon Caerdydd yw un o ddigwyddiadau hanner marathon mwyaf Ewrop a digwyddiad cyfranogiad torfol ac aml-elusennol mwyaf Cymru, gan ddenu mwy na £27,500 o redwyr cofrestredig ochr yn ochr ag athletwyr byd-enwog. Mae'r digwyddiad 13.1 milltir yn gwrs gwastad, cyflym sy'n mynd heibio i olygfeydd a thirnodau mwyaf hardd ac eiconig y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd hardd.

Targed Codi Arian: £200

Marathon Metrig Caer

Ble: Caer

Pryd: 6 Hydref

Dywedwch fwy wrthyf: Mae Marathon Metrig Caer MBNA bellach yn ddigwyddiad poblogaidd yn y calendr rasys a hwn yw'r unig gyfle i chi yn y DU i redeg y pellter hwn. Ras 26.2km yw hon, sy'n cynnig y cam perffaith o hanner marathon i farathon llawn.

Targed Codi Arian: £200

Marathon Caer

Ble: Caer

Pryd: 6 Hydref

Dywedwch fwy wrthyf: Ras sydd wedi ennill nifer o wobrau ac enillydd Marathon Gorau'r DU ar gyfer hyd at 5,000 o Redwyr (2018, 2019, 2020) yn ogystal ag unig farathon rhyngwladol y DU a gaiff ei gynnal yn ninas hanesyddol Rufeinig/Canoloesol Caer.

Targed Codi Arian: £200

Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru
Er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad neu i gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost i: [email protected]