Mae beicwyr o bob oedran wedi cymryd rhan yn Bike It 100 Cilgeti a chodi mwy na £6,000 i ddwy elusen.

Fis diwethaf aeth 170 o feicwyr, rhwng 11 a 30 oed, allan yn y tywydd poeth i godi £6,300 i Ambiwlans Awyr Cymru a Paul Sartori Hospice At Home.

Aeth y beicwyr ar dri llwybr gwahanol – 100 milltir, 75 milltir a 50 milltir, gan ddringo tua 7000, 5000 a 3500 o droedfeddi, yn y drefn honno, drwy gydol y digwyddiad heriol.

Teithiodd y beicwyr a gwblhaodd y llwybr 100 milltir drwy Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Un o'r cyfranogwyr oedd Mandy Draper, sy'n codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, y cafodd ei bywyd ei achub gan feddygon yr elusen ar ôl damwain beicio erchyll bron i bum mlynedd yn ôl. Hwn oedd digwyddiad beicio swyddogol cyntaf Mandy, ar ôl iddi glywed na fyddai fwy na thebyg yn cerdded byth eto.

Ers ei damwain mae Mandy wedi codi miloedd o bunnoedd i'r elusen drwy redeg mwy na 40 o farathonau. Cwblhaodd y llwybr 75 milltir mewn amser da a dywedodd wrth y trefnwyr mai dyna oedd un o'r digwyddiadau beicio mwyaf cyfeillgar yr oedd erioed wedi cymryd rhan ynddo.

Cafodd y digwyddiad, a oedd wedi'i gofrestru fel 'Sportive' gyda British Cycling, ei drefnu o dan gyfyngiadau COVID-19 llym, gan gynnwys amseroedd cofrestru a dechrau gwahanol i'r beicwyr.

Roedd y gorchestion arbennig eraill ar y diwrnod yn cynnwys Des Rees, sy'n 71 oed o Saundersfoot, a oedd yn bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiad Ironman am y tro cyntaf y llynedd i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, ond ar ôl i ddigwyddiad y llynedd ac eleni gael eu canslo, profodd Des ei fod yn barod ar gyfer yr her fawr wrth iddo orffen y llwybr 100 milltir anodd mor gryf ag yr oedd pan ddechreuodd.

Denodd Bike It 100 Cilgeti bobl o bob oed – Alan Bain sy'n 80 oed a Cindy Walker sy'n 11 oed (y ddau yn cynrychioli Haverfordwest Hornets) oedd y cyfranogwyr hynaf ac ifancaf a gwblhaodd y llwybr 50 milltir; cwblhaodd Huw Cressey-Rogers, sy'n 13 oed (Llanboidy), a Rogan Cox, sy'n 15 oed (Hendy-gwyn ar Daf), y llwybr 75 milltir, a Caio Jones, sy'n 12 oed (Clarbeston Road) a James Harris o Benfro, sy'n 13 oed, y llwybr 50 milltir.

Roedd diwedd y daith yng Nghlwb Cymdeithasol a Chwaraeon Kingsmoor gyferbyn â dechrau'r daith, ac ar ôl i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio yn ddiweddar, roedd y cyfranogwyr yn gallu mwynhau barbeciw awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol a lluniaeth a ddarparwyd yn garedig gan y clwb.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Diolchodd y trefnydd, Norman Mason, i'r holl helpwyr a swyddogion gwirfoddol a ddarparwyd gan y ddwy elusen, gyda diolch arbennig i Katie Macro a Toni Dorkings o'r ddwy elusen am eu help a'u harweiniad yn ystod y gwaith o gynllunio'r digwyddiad, yn ogystal ag ar y dydd.

Dywedodd: “Bu'n anodd cynllunio digwyddiad o'r maint hwn gyda'r holl ansicrwydd a oedd yn newid yn gyson dros y naw mis diwethaf, ond rwy'n falch fod y digwyddiad wedi mynd rhagddo yn ddidrafferth. Rwyf wrth fy modd gyda'r arian a godwyd, yn ogystal â'r adborth cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol o ran y gwaith trefnu, arwyddion pob llwybr, ac roedd y medalau coffa o lechen Gymreig wedi creu cryn argraff ar bawb.”

Dywedodd Katie Macro, Cydgysylltydd Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y De-orllewin: “Llongyfarchiadau i'r holl feicwyr a gwblhaodd Bike It 100 Cilgeti er gwaethaf y tywydd poeth, i godi arian i ddwy elusen bwysig. Diolch yn fawr iawn i Norman, Sharon, y gwirfoddolwyr a phawb a gymerodd ran a wnaeth y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Gwnaeth gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru a minnau wir fwynhau'r cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor boblogaidd.

“Codwyd swm anhygoel, a fydd yn helpu gyda'r gwaith o redeg yr Elusen. Roedd hefyd yn ysbrydoledig gweld Mandy Draper yn cymryd rhan yn ei digwyddiad beicio swyddogol cyntaf ers ei damwain beicio. Cwblhaodd Mandy y llwybr 75 milltir, sy'n anhygoel.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.