Mae grŵp o feicwyr Harley Davidson wedi codi Mwy na £5,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliodd Welsh Dragon Chapter Caerdydd, clwb sy'n gysylltiedig â sefydliad byd-eang Harley Owners Group, nifer o ddigwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys dawns gaeaf yng Ngwesty'r Vale yn Hensol, Bro Morgannwg.

Cododd y grŵp £5,094.65 drwy gynnal rafflau yng nghyfarfodydd misol y clwb a thrwy rali beicwyr a gynhelir yn lleol bob blwyddyn. Cynhaliodd y grŵp ocsiwn gan werthu dillad nas defnyddir a darnau beic modur er mwyn codi arian. 

Dywedodd Doug Burridge, Swyddog Aelodaeth Welsh Dragon Chapter Caerdydd, fod clybiau o wahanol ardaloedd yn codi arian ar gyfer elusennau dewisol, ac mai Ambiwlans Awyr Cymru a ddewiswyd gan y beicwyr.

Dywedodd: "Penderfynodd ein clwb godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd nifer y beicwyr y mae'r Elusen wedi eu helpu.

"Fel rhan o'n hwyl a'n gemau, rydym yn mynd i ralïau ar hyd a lled y DU ac Ewrop, ac yn ystod y digwyddiadau hyn, caiff arian ei godi ar gyfer elusen ddewisol y clwb sy'n trefnu. Caiff hyn ei wneud drwy rafflau ac ocsiynau ac ati."

Mae gan y clwb adran Menywod Harley hefyd, sy'n cynnal gwerthiannau cacennau a gweithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i godi arian.

Dywedodd Doug: "Roeddem yn gobeithio codi tua £3,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ond yna gwnaethom benderfynu cynnal dawns gaeaf yng Ngwesty'r Vale, a gyda'r rafflau a'r ocsiwn ychwanegol ar y noson, gwnaethom lwyddo i gynyddu'r swm hwnnw i £5,000.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Roeddwn yn hynod ffodus o gael fy ngwahodd i'r ddawns gaeaf ac roedd yn fraint cael cyfarfod â nifer o aelodau Welsh Dragon Chapter Caerdydd. Roedd yn noson hyfryd, a chafodd pawb amser gwych.

"Mae'r grŵp wedi codi swm eithriadol o arian a bydd ei ymdrechion yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.

"Ar ran yr Elusen, hoffwn ddiolch i bawb dan sylw am eu haelioni ac am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu helusen ddewisol.