Cyhoeddwyd: 04 Mehefin 2024

Er gwaethaf popeth, mae dau feiciwr brwd o Sir Benfro wedi cwblhau her anferth ar feic tandem o'r enw ‘Jean’, er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.


Gwnaeth Lee Berridge a John Mumberson hyd yn oed gysgu mewn ffosydd wrth iddynt gymryd rhan yn y digwyddiad sy'n cwmpasu bron 300 o filltiroedd dros ddeuddydd a hanner sy'n dechrau ac yn gorffen yn Plymouth. Roedd y pâr am “roi arian i elusen sydd wedi helpu llawer o bobl” y maent yn eu hadnabod, sydd wedi cael eu “cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr”.


Nid ar chwarae bach y mae ymgymryd â'r her feicio hon, ac roedd y ddau yn gwella o ddamweiniau eu hunain pan wnaethant gofrestru. 
Bu'n rhaid i Lee, sy'n 49 oed, gael llawdriniaeth ar ei gefn ar ôl cwymp gwael ystod rhaglen hyfforddi yn y gwaith. Anafodd John ei arddwrn a thorrodd sawl asgwrn yn ei wyneb ar ôl syrthio yn ei ardd.


Dywedodd Lee: “Roeddwn yn dysgu am dechnegau rigio newydd ar gyfer fy swydd haf gan fy mod yn ceisio gweithio mewn gwyliau a digwyddiadau syrcas gwahanol sy'n cael eu cynnal bryd hynny.


“Methodd darn o gyfarpar neu daeth yn rhydd.  Does neb yn siŵr beth ddigwyddodd, ond syrthiais chwe medr a hanner, yn syth i'r llawr, gan dorri tri fertebra.


“Cefais fy nghludo ar frys mewn ambiwlans i'r ysbyty agosaf a allai gynnig y llawdriniaeth orau yr oedd ei hangen arnaf.”
Ychwanegodd: “Mae gennyf hefyd sawl ffrind sy'n feicwyr modur sydd wedi cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.  Gwnaeth rhai ohonynt wella, ond nid pob un. 


“Cafodd brawd fy ffrind ddamwain car ychydig wythnosau yn ôl. Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ond yn anffodus bu farw y diwrnod canlynol.


“Penderfynodd ei chwaer ymgymryd â thaith redeg noddedig, a dyna wnaeth fy ysbrydoli i godi arian ar gyfer yr elusen.”


Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. 


Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.


Dywedodd Lee fod yr ambiwlans awyr yn gwneud “gwaith gwych” a'i fod am ddiolch i'r elusen drwy godi arian.


Dywedodd: “Rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau pellter hir, ond dim ond ar gyfer fy hun.  Dw i erioed wedi gwneud hynny er mwyn codi arian ar gyfer unrhyw beth arall.”


Mae Lee yn feiciwr brwd, a thra roedd yn gwella o'i anafiadau, gofynnodd ffrind iddo a fyddai'n hoffi prynu beic tandem. Dyna pryd y cafodd ei gyflwyno i ‘Jean’.


Dywedodd: “Mae gen i ddau feic tandem yn barod. Dw i ddim yn defnyddio'r un ohonyn nhw mewn gwirionedd, ond pan gododd y cyfle hwn, penderfynais ei brynu, ei adnewyddu a'i werthu er mwyn gwneud arian, gan nad ydw i'n gweithio.


“Ond digwydd bod, roeddwn wedi beicio gyda pherchnogion gwreiddiol y beic – felly penderfynais ei brynu.” 


Yn ôl yn 2023, roedd Lee a John wedi bwriadu cymryd rhan yn ras Trans Dorset, ond bu'n rhaid iddynt ohirio eu hymdrechion codi arian oherwydd eu damweiniau. Pan agorodd y gofrestr ar gyfer Trans Devon, gwnaethant gofrestru i gymryd rhan. 


Dywedodd Lee: “Gwnaethom benderfynu cymryd rhan ar feic tandem, a ni oedd yr unig rai ar feic tandem yn y ras. Roedd pawb arall a oedd ar feiciau unigol yn cario cyn lleied o bethau â phosibl. 


“Ond roeddwn i a John wedi mynd â'n holl gyfarpar campio gyda ni, a gwnaethom gysgu mewn meysydd parcio ac ym mhortsh blaen eglwys, a theithio dros fynyddoedd heriol iawn.” 


Hyd yma, mae'r pâr wedi codi ychydig dros £1,000 ac maent eisoes yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau codi arian. 
Dywedodd Lee: “Mae'r ambiwlans awyr yn anhygoel ac mae wedi helpu cynifer o bobl. Ddylai elusen ddim gorfod gwneud cymaint â hyn. 


“Ddylai ddim gorfod codi ei harian ei hun er mwy darparu gwasanaeth sy'n achub bywydau.


“Dyna pam rwyf am wneud cymaint â phosibl i helpu, ac rydym eisoes yn cynllunio dwy daith feic arall eleni.”


Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lee a John am gymryd rhan yn Trans Devon er budd ein helusen. Gwnaethant wynebu heriau, cysgu o dan y sêr a theithio dros dir anghyfarwydd, a hynny ar feic tandem hefyd!


“Mae angen i ni godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

 
“Drwy ein helpu i gyrraedd y targed hwn, rydym yn gallu helpu miloedd o bobl bob blwyddyn sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu, diolch i garedigrwydd ein cefnogwyr.”