09/06/2020

Mae grŵp o fechgyn ysgol o Gaerdydd wedi defnyddio eu hamser yn ystod y cyfyngiadau symud i godi dros £3,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd 12 o fechgyn Blwyddyn 2 o Ysgol Melin Gruffydd wedi codi arian drwy gwblhau taith gerdded rithwir yr Elusen, sef her Cerdded Cymru, a oedd yn rhoi'r cyfle i gyfranogwyr gerdded pellteroedd tirnodau penodol yng Nghymru.

Gwnaeth y bechgyn (Jac, Rhys, Rhodri, Hedd, Gwyn, Osian, Harri, Deiniol, Tomi, Mabon, Danny, Eos a Ffelix) osod yr her i'w hunain i gerdded 52 o filltiroedd  (105,000 o gamau) – y pellter o'r Gelli Gandryll i Gastell Powys – mewn pythefnos, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

Aeth y bechgyn, sy'n chwech neu saith oed, am dro unwaith y dydd, cyn cwblhau gweddill y pellter gartref – drwy gerdded i fyny ac i lawr y grisiau, rhedeg o gwmpas yr ardd neu neidio ar eu trampolinau.

Maent wrth eu bodd â'r gefnogaeth a gafwyd, sy'n cynnwys negeseuon fideo oddi wrth eu hathrawon ac ymarferydd gofal critigol o Ambiwlans Awyr Cymru, yn ogystal â rhoddion o fwy na £3,200.

Gan sôn am ymdrechion y plant, dywedodd Michelle Pugh, mam Rhodri: “Roeddent am wneud rhywbeth i helpu pobl eraill yn ystod y cyfyngiadau symud – gwnaethant benderfynu manteisio ar y cyfle sydd i wneud ymarfer corff bob dydd i godi arian tuag at achos da! Mae wedi bod yn ffordd hyfryd o gadw'r plant yn heini yn ystod y cyfyngiadau symud, ac roedd yr holl arian roeddent yn ei godi yn eu hysgogi i ddal ati.

“Llwyddodd y plant i godi dros £3,000. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym i gyd yn falch iawn o'u hymdrechion – da iawn blant!”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: "Ar ran Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch i'r bechgyn am eu hymdrechion gwych i godi dros £3,000. Fel Elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni anhygoel y cyhoedd i ariannu ein pedwar hofrennydd, a bydd y cyfraniad ystyrlon hwn yn ein helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr.

"Ar ran ein Helusen a phobl Cymru, hoffwn ddiolch i'r bechgyn a phawb sydd wedi'u cefnogi.”

Mae digon o amser o hyd i chi ddangos eich cefnogaeth drwy roi arian drwy dudalen Just Giving Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd – 2DLl yma.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.