Mae Barbwr o Orllewin Cymru wedi cwblhau Ironman Abertawe 70.3, gan godi mwy na £2,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2022, addawodd Jamie Lloyd y byddai'n cymryd rhan mewn her ffitrwydd a throdd ei olygon tuag at Ironman Abertawe 70.3.

Roedd disgwyl i'r rhai a oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad ddydd Sul 16 Gorffennaf 2023 gwblhau cwrs nofio 1.2 milltir, yn seiclo 56 milltir a rhedeg hanner marathon i orffen.

Dyma'r ail waith i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal yn ninas Abertawe, ac er gwaethaf yr amodau tywydd anodd, llwyddodd Jamie i groesi'r llinell derfyn mewn 6 awr 13 munud.

Cafodd y barbwr hunangyflogedig le elusennol i'r digwyddiad ac addawodd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Jamie: “Ar ôl gweld ar dudalen Facebook yr Elusen bod lleoedd elusennol dal ar gael i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, roeddwn i'n gwybod mai dyma oedd yr opsiwn gorau.

“Gan fy mod i'n byw yng Ngorllewin Cymru, rwy'n aml yn gweld pa mor werthfawr yw Ambiwlans Awyr Cymru, gan ein bod ni gryn bellter i ffwrdd o'r ysbytai mawr.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i sicrhau y gall barhau â'i waith achub bywyd.

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,000  o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.  

Gosododd y dyn 25 oed darged o godi £800 i'r Elusen ar gyfer Cymru gyfan ond llwyddodd i godi dros ddwbl y swm hwnnw.

Dywedodd: “Gyda chleientiaid da roeddwn i'n hyderus y gallwn gyrraedd fy nharged cychwynnol o £800, ond bellach rwyf wedi codi mwy na £2,000.

“Rwy'n ddiolchgar i'm holl ffrindiau, fy nheulu a chwsmeriaid am eu rhoddion tuag at yr ymgyrch codi arian hon ac rwy'n falch o'r cymorth a gefais tuag at fy her 70.3.”

Dyma'r tro cyntaf i Jamie o Aberystwyth gymryd rhan mewn triathlon y pellter hwn ac roedd ei deulu yno i'w gefnogi ar y diwrnod.

Dywedodd y tad i un: “Roedd fy mab dwy oed, Zebedee, yn aros amdanaf ar y llinell derfyn gyda fy mhartner a'm mam.”

Dywedodd Tracey Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Jamie am gwblhau Ironman Abertawe 70.3 a diolch am ddewis cefnogi ein Helusen.

“Bydd ymgyrchoedd codi arian fel hyn yn mynd tuag at gadw ein pedwar hofrennydd brys yn yr awyr a chadw cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Pob lwc gyda dy hyfforddiant Ironman Cymru.”