Cafodd bachgen ysgol o Rhondda Cynon Taf ei ysbrydoli i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl dysgu am waith yr elusen sy'n achub bywydau yn yr ysgol.

Gosododd Jake Davies, 7 oed, o Drecynon sialens iddo'i hun i redeg 25 milltir drwy fis Chwefror ac fe gododd £304 i'r elusen.

Dywedodd ei fam falch, Hayley: "Roedd Jake wedi bod yn dysgu am y gwasanaethau brys yn yr ysgol y llynedd, ac roedd yn rhaid iddo ddewis un i gwblhau ei waith cartref, felly penderfynodd ddewis Ambiwlans Awyr Cymru.

Roeddwn i allan yn siopa, ac fe wnes i lofnodi ffurflen i noddi elusen ac fe wnaeth hyn argraff fawr ar Jake gan ei fod yn gwybod bod Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion. Penderfynodd ei fod am godi arian ac nid oedd llawer o amser wedi bod ers i ni ddechrau rhedeg, felly roedd yn ymddangos fel cyfle gwych."

Ym mis Ionawr, ynghyd a'i fam a oedd gydag ef drwy gydol yr her, cwblhaodd Jake yr her 'race at your pace' pan redodd 15 milltir i ennill medal. Penderfynodd Jake y byddai'n gwthio ei hun i ymgymryd â'r her o redeg 25 milltir er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Hon oedd ymdrech gyntaf Jake i godi arian, ac er mwyn cwblhau'r milltiroedd cymerodd ran mewn 'park run' ar ddydd Sadwrn, yn ogystal â rhedeg ar ôl ysgol ac ar y penwythnosau.

Mae teulu a ffrindiau'r disgybl o Ysgol Gynradd Aberdare Park wedi bod yn gefnogol iawn o'i ymdrech codi arian, yn enwedig ei frawd mawr Harvey, 12 a Tilly, 9 oed, a'i fam-gu a'i dad-cu.

Ychwanegodd Hayley: "Rydym yn falch iawn ohono a'i awydd cryf i sicrhau ei fod yn cwblhau'r her. Roedd yr her yn anodd iawn yn ystod ein tri rhediad olaf, a oedd wythnos ar ôl storm Eunice, felly roedd y gwyntoedd yn ofnadwy.Bu'n gyfle bondio gwych i mi a Jake hefyd.

Mae ei dad a minnau yn falch iawn ohono. Mae'n fachgen bach mor garedig sydd wrth ei fodd yn chwarae gyda'i ffrindiau a chwarae gemau, ond o ganlyniad i rywbeth mae wedi'i ddysgu yn yr ysgol, mae wedi codi llawer o arian ac mae'n falch iawn o'i hun am wneud hynny."

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Debra Sima, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'n wych clywed bod Jake wedi penderfynu codi arian i'n helusen sy'n achub bywydau ar ôl dysgu am y gwasanaethau brys yn yr ysgol. Roedd wedi gosod her enfawr iddo'i hun, ac yntau mor ifanc, ac er gwaethaf y stormydd a'r tywydd gwael roedd yn benderfynol o gwblhau'r her codi arian. Diolch yn fawr iawn Jake, bydd yr £304 rwyt ti wedi'i godi yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i fod yno i bobl Cymru pan fydd ei hangen arnynt fwyaf. Dylet ti fod yn falch iawn ohonot ti dy hun achos rydym ni'n bendant yn falch ohonot ti!"

Mae Jake wrth ei fodd ei fod wedi codi mwy na'i darged codi arian o £100 a hoffai ddiolch i'w gefnogwyr am ei noddi ac am eu cefnogaeth.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.